Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 10 Tachwedd, ysgrifennais at y Cynghorydd Bob Wellington, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i roi gwybod iddo am fy mhenderfyniad i roi terfyn ar y grant y mae Llywodraeth Cymru yn talu i'r Gymdeithas i ddarparu cymorth i wella gwasanaethau Awdurdodau Lleol yng Nghymru o Ebrill 2015. Eleni, mae'r grant yn uchafswm o £1.62 miliwn.

Mae'n briodol ein bod yn adolygu trefniadau grant i bob sefydliad yn rheolaidd yn enwedig ar adeg pan fydd yn rhaid i ni flaenoriaethu ein hadnoddau yn ofalus iawn.

Yn aml mae CLlLC wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu os yw grantiau unigol yn ffurf briodol o gyllido gweithgareddau, neu a fyddai arian yn cael ei ddefnyddio'n well drwy gael ei gyfuno â Setliad Llywodraeth Leol.

Nid wyf wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Ystyriais nifer o opsiynau a daeth i'r casgliad y byddai’r cyllid hwn yn cael ei gyfeirio yn well tuag at y gweithgareddau sy'n cyd-fynd yn fwy amlwg gydag ein huchelgeisiau ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gallai fod y dylai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun, a'r cyrff sy'n aelodau, ystyried a yw'n iawn i sefydliad aelodaeth gael mwy na 75% o'i incwm gan Lywodraeth Cymru.

Cyn bo hir byddaf yn gwahodd cydweithwyr yn y Cabinet i adolygu a yw'r ystod o grantiau cyfredol y maent yn darparu i CLlLC, a allai fod wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, yn parhau i fod yn briodol, neu a oes unrhyw drefniadau eraill a allai gynhyrchu canlyniadau gwell ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Rwyf yn cydnabod goblygiadau’r penderfyniad hwn i CLlLC ac rwyf hefyd yn cydnabod bod gwaith da wedi'i wneud yn y gorffennol i gefnogi gwelliannau o fewn awdurdodau lleol. Mae fy mhenderfyniad yn adlewyrchiad y bydd maint ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn gofyn am fath gwahanol iawn o gymorth.

Rwyf wedi trafod fy mhenderfyniad gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a fydd yn ystyried sut y mae hi'n dymuno darparu cefnogaeth ar gyfer materion cydraddoldeb mewn llywodraeth leol yn ei phortffolio.