Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, ysgrifennais at bob ysgol yng Nghymru i’w hysbysu am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud i'r Grant Datblygu Disgyblion, a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill.

Yn gyntaf, cyhoeddaf newid bach, ond newid pwysig yn enw'r grant. Credaf fod 'y Grant Datblygu Disgyblion' yn fwy priodol. Yn ogystal ag adlewyrchu'r arferion arbennig sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru, credaf hefyd y bydd yr enw mwy cadarnhaol hwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddilyniant dysgwyr, ochr yn ochr â lleihau'r blwch mewn cyrhaeddiad.

Yn Symud Cymru Ymlaen 2016 – 2021 rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy Grant Datblygu Disgyblion estynedig. Rwy'n falch bod y grant yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd arloesol ac yn parhau i gael effaith ar lefelau cyrhaeddiad ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ac mae fy ymweliadau lu ag ysgolion ledled Cymru wedi dangos eu bod yn rhoi gwerth mawr ar y Grant fel ffordd o sicrhau bod ein system addysg yn decach. Mae hyn yn hollbwysig os ydym am sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial.

Er mwyn cynnal y momentwm hwn, rwy'n bwriadu parhau i ariannu ysgolion i gefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol drwy brydau ysgol am ddim, a chonsortia rhanbarthol i barhau i ddarparu dull rhanbarthol o helpu plant sy'n derbyn gofal ar raddfa o £1,150 fesul dysgwr cymwys ar gyfer 2017-18. Yn ogystal â hyn, rwyf hefyd yn bwriadu:

  • dyblu Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen
  • estyn y Grant i helpu plant tair blwydd oed sy'n derbyn gofal ar yr un raddfa â dysgwyr eraill sy'n derbyn gofal 
  • estyn y cyllid i ddysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, yn hytrach na’r rheini sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion yn unig
  • sicrhau bod y consortia addysg rhanbarthol yn cryfhau eu trefniadau rheoli i gefnogi ysgolion uwchradd i gyrraedd targed o fuddsoddi o leiaf 60% o'r Grant yng Nghyfnod Allweddol 3 i oresgyn rhwystrau i ddysgu wrth iddynt gael eu nodi.  

Rydw i wastad wedi bod yn glir ynghylch fy ymrwymiad i gefnogi dysgwyr difreintiedig, ac rwy'n credu mai dim ond drwy wneud hynny y gallwn godi lefelau cyrhaeddiad mewn ffordd gynaliadwy ar draws Cymru gyfan.

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn hollbwysig i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd i leihau anghydraddoldebau a dileu rhwystrau.

Rwy'n ddiolchgar i'n penaethiaid, athrawon a'n gweithlu addysg am eu gwaith caled beunyddiol i helpu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein nod cenedlaethol o ddiwygio'r system addysg.