Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gwahoddwyd mudiadau trydydd sector i ymgeisio am y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant rhwng 1 Awst a 31 Hydref 2013.  Rwy'n falch iawn o ddweud i ni gael ymateb gwych. Cyflwynwyd ceisiadau gan 191 o fudiadau, gyda'r cynigion yn gofyn am gyfanswm o tua £15.3 miliwn y flwyddyn. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael i'r Grant yw hyd at £1.645 miliwn y flwyddyn.

Mae’r grant ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2014 tan 31 Mawrth 2017. Y bwriad yw ariannu mudiadau trydydd sector i gyfrannu at flaenoriaethau cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru, yn arbennig yr amcanion cydraddoldeb yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol; mae'r grant yn helpu pobl ar draws gwahanol nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rwy'n falch o gyhoeddi mai'r mudiadau a'r prosiectau llwyddiannus yw:

Age Concern Gogledd-ddwyrain Cymru, Prosiect Age Connects

Y Groes Goch Brydeinig, cymorth i fenywod sy'n ffoaduriaid yn ne-ddwyrain Cymru. 

Eglwysi Methodistaidd Caerdydd ar ran y Trinity Project, Trinity Development Project

Anabledd Cymru, Enabling Wales

Dynamix, Tackling the Tensions, Train the Trainers

Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Prosiect Balancing Power 

Canolfan Merched Gogledd Cymru, Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canolfan Merched Gogledd Cymru

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, prosiect cynhwysiant synhwyraidd

Cronfa Achub y Plant, Prosiect Travelling Ahead

Stonewall Cymru, Sicrhau Cydraddoldeb i Bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol yng Nghymru

YMCA Abertawe, The Identity Project

Taking Flight Theatre Company, Real Human Being

Cymorth i Ddioddefwyr, Canolfan Cofnodi Digwyddiadau/Troseddau Casineb a Gwasanaeth Cymorth 

Cyngor Ffoaduriaid Cymru, cynhwysiant i ffoaduriaid yng Nghymru

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru 

Youth Cymru, Trans* Form Cymru

Bydd pobl o bob cwr o Gymru'n medru manteisio ar y grant. Bydd nifer o'r prosiectau yn cyflawni gwasanaethau ar sail genedlaethol, ac eraill yn canolbwyntio'u gwasanaethau mewn ardaloedd lle bo anghenion penodol.

Pan lansiwyd y grant, roeddem yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau a fyddai'n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, Sipsiwn a Theithwyr a phobl trawsryweddol. Rwy'n falch o ddweud bod ceisiadau o ansawdd uchel wedi dod i law yn y meysydd hyn, ac mae prosiectau i roi cymorth a chyngor i'r grwpiau hyn ymysg y rhai sy'n cael eu hariannu.

Hefyd roeddem yn awyddus i weld cynigion ar gyfer canolfan genedlaethol lle gallai trydydd parti gofnodi troseddau casineb. Rwy'n falch o gyhoeddi bod Cymorth i Ddioddefwyr wedi cael arian i ddarparu canolfan genedlaethol o'r fath. Bydd hyn yn gyfraniad pwysig at y Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb y byddwn yn ei lansio eleni. Newyddion cadarnhaol hefyd yw y bydd Anabledd Cymru'n helpu i ddatblygu canolfannau i alluogi pobl anabl i fyw'n annibynnol.

Mae'r cyllid hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru at egwyddorion tegwch a chydraddoldeb, ac i ddatblygu cyfle cyfartal a hawliau dynol ymhellach. Mae'n cyfrannu at ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi drwy leihau anghydraddoldeb a lliniaru effaith tlodi, drwy sicrhau mynediad teg at wasanaethau.

Rwy'n ymwybodol iawn bod nifer o fudiadau yn mynd i gael eu siomi gan nad oedd eu ceisiadau'n llwyddiannus.  Rydym y gweithio o fewn hinsawdd economaidd heriol iawn, a chyllid cyfyngedig. Yn y cyd-destun hwn, roeddwn wedi ymrwymo i gynnal lefel y cyllid ar gyfer y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant dros y tair blynedd nesaf. Rwy’n falch iawn o ddweud ein bod wedi medru ariannu prosiectau ardderchog drwy’r grant hwn, a’n bod wedi llwyddo i sicrhau cydbwysedd ar draws y nodweddion gwarchodedig ac o ran lleoliad daearyddol.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.