Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n hollbwysig nad yw gallu pobl i fyw’n annibynnol yn cael ei roi yn y fantol oherwydd newidiadau i’r ffordd y mae eu gofal a’u cymorth yn cael eu trefnu a’u darparu. Fis Gorffennaf diwethaf, ar ôl gweithio’n agos gyda’r ymgyrch i gadw Grant Byw’n Annibynnol Cymru, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y trefniadau newydd yr wyf wedi eu cyflwyno i ddarparu asesiadau gofal annibynnol i unigolion a arferai gael taliadau o dan Grant Byw’n Annibynnol Cymru. Nod y trefniadau newydd hyn oedd helpu unrhyw un a arferai dderbyn Grant Byw’n Annibynnol Cymru nad oedd yn hapus â chanlyniad asesiad gofal ei awdurdod lleol. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf am yr asesiadau annibynnol hynny. 

Wedi imi ddarparu diweddariad yn flaenorol, cafodd ICS Assessment Services eu penodi, drwy broses gystadleuol, i drefnu a chynnal asesiadau annibynnol ar gyfer y rheini a oedd wedi gofyn am asesiad o’r fath. Dewisodd 46 o’r rheini a arferai dderbyn taliadau o dan Grant Byw’n Annibynnol Cymru fanteisio ar y cyfle hwn. Erbyn hyn, mae ICS wedi cynnal yr holl asesiadau.

Mae’r holl asesiadau annibynnol a gwblhawyd wedi bod drwy wiriadau sicrhau ansawdd ICS erbyn hyn ac maent wedi cael eu trosglwyddo i’r awdurdodau lleol perthnasol i’w hystyried. Gwnaed hyn cyn i drafodaeth gael ei chynnal rhwng gweithiwr cymdeithasol o ICS a gweithiwr cymdeithasol o’r awdurdod lleol perthnasol ynglŷn â chanlyniad yr asesiad annibynnol, ac unrhyw effaith y gallai’r canfyddiadau ei chael ar becyn cymorth presennol unigolyn. Wedi cwblhau’r cam hwnnw, cynhelir cyd-gyfarfod gyda’r unigolyn i drafod canlyniad y drafodaeth honno, siarad ynglŷn â’r goblygiadau ar gyfer ei becyn cymorth a chytuno ar y gofal a’r cymorth y bydd o ganlyniad yn eu cael yn y dyfodol.

Mae’r trafodaethau rhwng gweithwyr cymdeithasol ICS a’r awdurdodau lleol wedi’u cynnal yn tua hanner yr achosion erbyn hyn. Bydd y trafodaethau sy’n weddill yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Yn dilyn y trafodaethau a gynhaliwyd eisoes, mae cyfarfodydd wedi dechrau gyda’r rheini sy’n derbyn gofal, ac mae’r gwaith o gytuno ar ganlyniadau ar gyfer yr unigolion hynny, a’u rhoi ar waith, wedi dechrau. Mae’n rhy gynnar rhoi unrhyw sylw ar y canlyniadau cyffredinol yn deillio o’r asesiadau annibynnol hyn ond mae rhai materion pwysig yn dod i’r amlwg.

Mewn amryw o achosion, daeth ICS i’r casgliad bod unigolion yn derbyn pecynnau cymorth ar hyn o bryd sy’n fwy na’r hyn y byddid wedi’i ddisgwyl. Mae’n bosibl bod hyn yn digwydd oherwydd bod yr unigolion hyn ar fin trosglwyddo i becyn Cymorth Iechyd Parhaus y GIG. Mae’r pwynt lle trosglwyddir o daliadau uniongyrchol i Gymorth Gofal Iechyd Parhaus y GIG, a’r heriau y gall hyn eu hachosi i’r rheini sy’n derbyn gofal, yn faterion y tynnwyd fy sylw atynt gan y Bwrdd Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol hefyd. 

Ar ôl ystyried hyn yn ofalus, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i gynnal adolygiad o’r pwynt lle trosglwyddir rhwng taliadau uniongyrchol a Chymorth Iechyd Parhaus y GIG. Y nod yw penderfynu a ellid defnyddio unrhyw fecanweithiau eraill, er enghraifft ymddiriedolaethau defnyddwyr annibynnol, i sicrhau nad yw unigolion sydd angen mwy o gymorth gan y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o golli’r tîm o gynorthwywyr personol a ariannwyd ganddynt drwy daliadau uniongyrchol ac sydd wedi cymryd blynyddoedd i’w meithrin. Os gellid dod o hyd i ffordd decach, well, byddai hyn yn cael gwared ar yr ofn y mae rhai unigolion yn ei deimlo yn ôl pob golwg ynglŷn â’r syniad o drosglwyddo i Gymorth Iechyd Parhaus y GIG.

Mae’n faes cymhleth ac ni fyddaf yn cyfaddawdu yr egwyddor o GIG sy’n perthyn i’r sector cyhoeddus yn hytrach nag a gynhelir gan unigolion yn y sector preifat. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn awyddus hefyd i weld a oes ffordd well o wneud hynny, a ffordd gyflymach.

Mae Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn glir bod rhaid i Wladwriaethau sicrhau bod gan bobl anabl fynediad at amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn y cartref / preswyl a gwasanaethau cymorth cymunedol eraill, gan gynnwys y cymorth personol sydd ei angen arnynt i’w helpu i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau, ac i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau lleol. Y gallu i ddewis sut fath o gymorth personol y byddwch yn ei gael yn eich bywyd o ddydd i ddydd yw’r egwyddor allweddol mewn perthynas â’r hawl ddynol hon.

Wrth i ganlyniadau’r holl asesiadau annibynnol gael eu cadarnhau, hoffwn atgoffa’r Aelodau y bydd cost yr asesiadau gofal annibynnol, ac unrhyw ofal cymdeithasol y gellid nodi ei fod yn angenrheidiol yn sgil cynnal yr asesiadau hyn, yn cael ei hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, ni fydd gofal a chymorth unigolion yn cael eu newid fel mesur i dorri costau. Sicrhau bod y canlyniadau a geir yn deg ac yn gyson ac yn cefnogi’r canlyniadau llesiant y cytunwyd arnynt ar gyfer unigolion yw’r egwyddor sylfaenol i fy null gweithredu.