Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror, cyhoeddais newid yn y ffordd y bydd pobl arferai dderbyn taliadau Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn cael cymorth yn y dyfodol gan wasanaethau cymdeithasol eu hawdurdodau lleol. Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau sy'n cael eu cyflwyno.

Mae'n gwbl hanfodol sicrhau nad yw gallu pobl i fyw'n annibynnol dan fygythiad yn sgil newidiadau i'r ffordd y mae eu gofal a'u cymorth yn cael eu trefnu a'u darparu. Dyna pam y penderfynais y dylai'r bobl arferai dderbyn taliadau'r Grant gael cyfle i gael asesiad annibynnol o'u gofal a'u cymorth os ydynt yn anfodlon â chanlyniad eu hasesiad gofal a chymorth gan yr awdurdod lleol. Pwrpas yr asesiadau hynny yw cytuno ar ganlyniadau llesiant mae pobl yn dymuno eu cyflawni er mwyn medru byw'n annibynnol, a chytuno ar sut i'w cyflawni.

Er bod y rhan fwyaf o bobl a arferai dderbyn taliadau'r Grant yn fodlon â'r gofal a'r cymorth y maent yn eu derbyn, pan fo pobl yn anhapus â chanlyniad yr asesiad gofal byddai'r hawl i gael asesiad gofal annibynnol yn cynnig ail farn ar y mater. Byddai hefyd yn ailsefydlu'r trefniant penderfyniadau tairochrog a oedd yn bodoli dan y Gronfa Byw'n Annibynnol - sef cytundeb rhwng y derbynnydd, gweithiwr cymdeithasol annibynnol y Gronfa a gweithiwr cymdeithasol yr awdurdod lleol. Roedd yr ymgyrch Achub Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn awyddus iawn i adfer hyn.

Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi symud ymlaen yn dda iawn i roi'r trefniadau ar waith ar gyfer yr asesiadau gofal annibynnol hyn. Ym mis Ebrill, ysgrifennais at bob un o'r rhai a arferai dderbyn y Grant, gan eu hysbysu bod modd iddynt gael asesiad gofal annibynnol ac egluro fy rhesymau dros gynnig y cyfle hwn iddynt. Os oedd unrhyw un yn dymuno cael asesiad annibynnol, gofynnais iddynt gysylltu â'u hawdurdod lleol erbyn 14 Mehefin er mwyn i ni weld faint o ddiddordeb fyddai. Erbyn y dyddiad hwnnw, daeth 55 cais i law ar draws 14 awdurdod lleol. Mae hynny allan o bron i 1,400 o bobl yng Nghymru arferai dderbyn taliadau'r Grant. Mae'n ymddangos bod hyn yn cadarnhau ein dealltwriaeth bod mwyafrif llethol y rhai arferai dderbyn taliadau'r Grant yn fodlon â chanlyniad eu hasesiad gofal a'r gofal a chymorth maent bellach yn eu derbyn. Fodd bynnag, mae hefyd yn cadarnhau fy mod yn iawn i gyflwyno'r newid hwn ar gyfer y nifer sylweddol o bobl sy'n pryderu am ganlyniad eu hasesiad gofal.

Rydym hefyd wedi cynnal ymarfer caffael er mwyn cael gafael ar sefydliad i recriwtio a rheoli'r gweithwyr cymdeithasol annibynnol angenrheidiol i gynnal yr asesiadau hyn. Bydd y gweithwyr cymdeithasol hyn yn gymwys ac yn ddigon profiadol i gyflawni'r dasg hon, ac wedi'u cofrestru felly ar y gofrestr berthnasol sy'n cael ei chadw gan Gofal Cymdeithasol Cymru. O ganlyniad, fe fyddant yn deall ethos a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r rheoliadau a'r cod ymarfer a wnaed o dan y ddeddf honno mewn perthynas ag asesiadau gofal a diwallu anghenion gofal. Ni fyddant, fodd bynnag, yn gyflogedig gan awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod yn annibynnol.

Yn dilyn gwerthusiad o'r ceisiadau am y contract hwn, penodwyd ICS Assessment Services Ltd. i drefnu a chynnal yr asesiadau annibynnol o ofal a chymorth y gofynnir amdanynt. Mae gan ICS brofiad sylweddol o ofal cymdeithasol ac o gynnal asesiadau, yn sgil gwaith blaenorol gydag amrywiol awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr. Mae swyddogion wedi cyfarfod cynrychiolwyr ICS, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cytuno ar broses a fydd yn cael ei dilyn i gyflawni'r asesiadau annibynnol a gweithio drwy'r camau ymarferol cysylltiedig. Mae'r gwaith wedi hen ddechrau, felly dylai'r trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau ICS fod yn eu lle erbyn diwedd y mis. Cyn hir byddaf yn ysgrifennu at y rhai arferai dderbyn taliadau Grant Byw'n Annibynnol Cymru sydd wedi gofyn am asesiad annibynnol o'u gofal a chymorth er mwyn rhoi rhagor o fanylion iddynt a chadarnhau beth sydd angen iddynt ei wneud i gael asesiad.

Hoffwn atgoffa'r Aelodau y bydd costau'r asesiadau gofal annibynnol hyn, ac unrhyw gymorth ychwanegol sy'n codi ohonynt, yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gwestiwn o wneud newidiadau i becyn gofal a chymorth er mwyn torri costau. Egwyddor sylfaenol y trefniant hwn yw sicrhau bod y canlyniadau yn y pen draw yn gyson â’r canlyniadau llesiant a gytunwyd ar gyfer yr unigolion.

Rwy'n cytuno ei bod wedi cymryd tipyn o amser i sefydlu'r trefniadau hyn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i ni osod trefniadau sydd wedi'u hystyried yn briodol. Mae'r ymgyrch Achub Grant Byw’n Annibynnol Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i'r camau rwy'n eu cymryd, gan ein bod yn cytuno bod angen i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith yn y ffordd gywir.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd datblygiadau pellach.