Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym wedi cyhoeddi heddiw adroddiad sy'n gwerthuso ail flwyddyn y Grant Amddifadedd Disgyblion. Lluniwyd yr adroddiad gan Ipsos Mori a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Mae'r adroddiad yn trafod sut y mae ysgolion wedi dewis gwario'r Grant Amddifadedd Disgyblion, a barn athrawon ynghylch effaith y grant.

Mae casgliadau'r adroddiad yn bositif iawn. Cred athrawon fod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cyflawni gwahaniaeth gwirioneddol. Maent yn nodi gwelliannau sylweddol ar gyfer eu dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o ran llythrennedd a rhifedd a hefyd o ran eu hymddygiad, eu hyder a'u hunan-fri.

Dengys yr adroddiad fod ysgolion yn gwneud defnydd cynyddol o systemau soffistigedig er mwyn teilwra'r math cywir o gefnogaeth drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y grŵp cywir o ddysgwyr. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud penderfyniadau doeth a chymwys ynghylch sut i wario'r grant.  Mae tystiolaeth ddiweddar gan Estyn ac adborth gan ein hyrwyddwr ar gyfer Gwella Cyrhaeddiad - Syr Alasdair MacDonald - hefyd yn ategu'r farn hon.

Mae'r modd y mae ysgolion yn gwario'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn datblygu, a byddwn yn parhau i gydweithio â hwy er mwyn sicrhau bod gwell ymwybyddiaeth o fanteision cyllid a dulliau ymyrryd mwy pendant a gaiff eu targedu'n briodol.  Mae ysgolion a fuddsoddodd arian i ddechrau mewn systemau monitro data bellach yn canolbwyntio ar gyflenwi dulliau ymyrryd ac ar hyfforddi a chyflogi staff a all weithredu'r dulliau ymyrryd hyn. Rwy'n falch iawn fod y Grant Amddifadedd Disgyblion hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu sgiliau Cynorthwywyr Addysgu. Mae ysgolion wedi nodi bod y Cynorthwywyr Addysgu hyn wedi datblygu'n aelodau o staff gwerthfawr a medrus iawn.

Rwyf hefyd yn falch fod ysgolion yn defnyddio'r grant ar gyfer estyn allan, gan ymwneud â rhaglenni lleol sy'n ategu'r Grant Amddifadedd Disgyblion gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf. Mae ysgolion hefyd yn trafod rhagor â rhieni fel y gallant gefnogi dysgu eu plant yn well.

Credaf fod yr adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach o ddiwylliant sy'n newid o fewn ysgolion, lle y mae anghenion unigol dysgwyr wrth wraidd yr holl waith cynllunio a lle y mae ein holl ddisgyblion yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae llawer i'w wneud o hyd, fodd bynnag, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen i ni barhau i roi sylw iddynt.

Mae'r gefnogaeth a gaiff ei darparu drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn un o nifer o ddulliau ymyrryd yr ydym wedi'u cyflwyno, fel rhan o'n rhaglen Ailysgrifennu'r Dyfodol, er mwyn mynd i'r afael ag effaith niweidiol tlodi ar ddeilliannau addysgol. Rydym bellach yn gweld effaith y gwaith hwn, wrth i berfformiad dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wella.

Mae canlyniadau TGAU eleni, a gyhoeddwyd ddoe, ynghyd â'r adroddiad hwn  yn dangos gwelliant amlwg yng nghyrhaeddiad dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ers i'r grant gael ei gyflwyno yn 2012.  Mae dadansoddiad o'n ffigurau sydd wedi'u cyhoeddi ynghylch y trothwy Lefel 2 cynhwysol yn dangos bod cyfraddau gwella dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi mwy na dyblu ers cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gwaith caled sydd wedi'i gyflawni hyd yma yn parhau. Byddwn yn parhau i bwyso a mesur dulliau blaengar a newydd ar gyfer cefnogi ysgolion - a'r gymuned ehangach - er mwyn sicrhau bod y dysgwyr hyn yn cael y cyfle gorau posibl i dorri'r cylch o amddifadedd, tangyflawniad a thlodi.