Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â gweithdrefnau cyfrifyddu safonol, a'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ostwng gwerth asedau sy’n weddill o’r costau sy'n gysylltiedig â datblygu Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Mae gwerth £78.9m arall yn cael ei ostwng yn dilyn y gostyngiad o £43.1m yng nghyfrifon 19/20. Cafodd y cyfanswm gwariant hwn o £135.7m ers dechrau'r prosiect, a hyd at y pwynt lle y penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen, ei wario ar waith datblygu gan gynnwys arolygon amgylcheddol, data ymchwilio tir a modelau trafnidiaeth. Bydd y penderfyniad yn cael ei gynnwys yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 a chyhoeddir y Datganiad Ysgrifenedig hwn cyn cyfrifon terfynol 2020/21.

Er na fydd y costau sydd wedi gweld gostyngiad yn eu gwerth yn cael eu hadrodd mwyach yn y Datganiad o'r Sefyllfa Ariannol fel asedau nid yw hyn yn golygu y bydd astudiaethau a setiau data yn cael eu diystyru.  Mae'r llyfrgell ddata a grëwyd drwy'r gwariant yn parhau i fod ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru a chyfeirir ati mewn prosiectau yn y dyfodol i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i bwrs y wlad.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.