Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Pleser o’r mwyaf yw cael gosod gerbron y Cynulliad heddiw y Rheoliadau a fydd yn pennu cylch cyntaf Safonau’r Gymraeg.
Dyma ddeddfwriaeth hanesyddol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i’r iaith yn y sefydliadau hynny y bydd gofyn iddynt gydymffurfio â safonau. Bydd yn annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd pob dydd, boed hynny wrth dderbyn gwasanaethau neu fel gweithwyr yn y sefydliadau dan sylw.
Bydd y safonau’n chwarae rhan bwysig wrth sefydlu fframwaith a fydd yn sicrhau y gall pobl fod yn hyderus yn y gwasanaethau maent yn eu derbyn yn Gymraeg. Byddant yn fodd o sicrhau y cynigir y gwasanaethau hynny mewn ffordd ragweithiol, eu bod yn cael eu hyrwyddo’n dda, a’u bod o ansawdd sy’n golygu nad yw unigolion yn teimlo eu bod yn cael gwasanaethau o ansawdd is na’r rheini sy’n cael gwasanaethau Saesneg.
Byddant wrth galon mecanwaith newydd a fydd yn caniatáu i’r Comisiynydd – a fydd yn gyfrifol am osod a rheoleiddio’r safonau – nid yn unig ymchwilio i ddiffyg cydymffurfiaeth â nhw, ond hefyd i gymryd camau priodol i’w gorfodi. Mae sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg hefyd yn gam mawr ymlaen i sicrhau cydymffurfiaeth ac fel dull apêl ar gyfer penderfyniadau’r Comisiynydd.
Cafodd y safonau hyn eu drafftio’n benodol ar gyfer Awdurdodau Lleol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru. Wedi i’r rheoliadau ddod i rym, awdurdodir Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r sefydliadau dan sylw, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau hynny.
Mae’r safonau wedi bod yn destun ymgynghori ac ymchwilio. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth lawn i sylwadau’r Comisiynydd (yn sgil ei hymchwiliad safonau rhwng Ionawr ac Ebrill 2014), ac ers hynny wedi cynnal ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft, a ddaeth i ben ar 5 Rhagfyr 2014. Bryd hynny, daeth llawer o ymatebion adeiladol a threiddgar i law, a rhoddwyd sylw manwl i’r materion a godwyd.
Hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd, y sefydliadau a fydd yn destun i’r safonau hyn, a phawb a ymatebodd am eu sylwadau gwerthfawr. Does dim amheuaeth bod adborth defnyddiol ynghylch cyfeiriad llawer o’r safonau wedi dod i law yn ystod yr ymarferion ymgynghori hyn. Rydym o’r farn bod y broses wedi arwain at greu cyfres o safonau cadarn a fydd yn garreg filltir bwysig wrth inni brif-ffrydio’r Gymraeg i bob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
Mae’n bwysig pwysleisio bod y system hon o safonau’n torri tir newydd yng nghyd-destun deddfwriaeth i ddiogelu ieithoedd. Mae wedi’i theilwra’n benodol at sefyllfa’r Gymraeg, a’i nod yw:
- gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn Gymraeg
- cynyddu’r defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg
- ei gwneud yn eglur i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei gwneud mewn perthynas â’r Gymraeg
- sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.
Rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i roi diweddariad am yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r safonau hyn, yn ogystal ag amserlen y Comisiynydd ar gyfer cynnal ymchwiliadau safonau mewn perthynas â chyrff eraill. Mae rhestr lawn o’r sefydliadau sy’n destun ail a thrydydd ymchwiliad safonau’r Comisiynydd i’w chanfod ar wefan y Comisiynydd.
Amserlen y Safonau
Cylch 1 – Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
- Pleidlais i gymeradwyo rheoliadau cylch un yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol – 24 Mawrth 2015
- O’u cymeradwyo, daw’r safonau i rym ar 31 Mawrth 2015, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno Hysbysiadau Cydymffurfio i’r 26 sefydliad yng nghylch 1
- Bydd yr Hysbysiadau Cydymffurfio yn pennu o ba ddyddiad y bydd yn rhaid i sefydliad gydymffurfio â safonau.
- Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno ei hadroddiad ar ymchwiliad safonau ail gylch y safonau – Mai 2015
- Llywodraeth Cymru i ddechrau drafftio’r rheoliadau ar gyfer ail gylch y safonau – erbyn yr hydref 2015
- Dechrau ar y broses o gyflwyno rheoliadau’r ail gylch – erbyn diwedd 2015.
- Comisiynydd y Gymraeg i ddechrau ei hymchwiliad safonau ar gyfer cylch 3 – Mai 2015.