Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020 gerbron y Cynulliad.

Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 i sicrhau bod y cynllun sydd yn ei le ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 yn adlewyrchu codiadau yng nghost byw.  Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn cadw hawliadau ar gyfer 280,000 o aelwydydd ledled Cymru sy'n dibynnu ar y cymorth hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru unwaith eto'n cyfrannu £244 miliwn tuag at ariannu cymorth ar gyfer y dreth gyngor trwy setliad llywodraeth leol fel cyfraniad pwysig at ein hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach. Yn gynharach y mis hwn, lansiais gam nesaf ein hymgyrch ymwybyddiaeth sy'n anelu at helpu pawb yng Nghymru i ddeall a oes ganddynt hawl i gael cymorth gyda'u bil treth gyngor ac yn rhoi cyngor am sut i gael gafael arno.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y rheoliadau ar ddechrau'r flwyddyn newydd.