Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau drafft Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd.

Os byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.  Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun yn barod ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 a'i fod yn cael ei uwchraddio i adlewyrchu newidiadau mewn costau byw, gan olygu y bydd bron i 260,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru, sy'n dibynnu ar y cymorth hwn, yn parhau i fod yn gymwys. 

Yn ogystal, er mwyn gwneud y cynllun yn haws ei ddefnyddio ac yn symlach i'w weinyddu eleni, rydym wedi'i gwneud yn glir yn y Rheoliadau y caiff awdurdod lleol drin person sy'n cael Credyd Cynhwysol fel un sydd wedi gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor. 

Mae diwygiadau pellach yn sicrhau bod pobl sydd wedi'u dadleoli o Sudan, Israel, Palesteina neu Libanus yn gymwys i wneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor. 

Yn olaf, mae'r Rheoliadau'n sicrhau na fydd derbyn taliad a wneir o dan y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor yn effeithio'n negyddol ar unrhyw geisydd sy'n byw yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ddechrau'r flwyddyn nesaf.