Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 (“y Rheoliadau Diwygio”) a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 (“y Rheoliadau Diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) drwy roi Rhan 4 newydd (Dyletswyddau Asiantaeth Fabwysiadu o Ran Darpar Fabwysiadydd) yn lle’r un bresennol. Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr gan asiantaethau mabwysiadu. Mae hefyd yn cael ei diwygio er mwyn cyflwyno proses newydd dau gam ar gyfer asesu a chymeradwyo. Yn ystod Cam Un (y broses cyn-asesu, sydd wedi’i chyfyngu i gyfnod o ddau fis), cynhelir yr holl wiriadau rhagnodedig, gan gynnwys gwiriadau iechyd a gwiriadau cofnodion troseddol. Yn ystod Cam Dau (y penderfyniad asesu, sydd wedi’i gyfyngu i gyfnod o bedwar mis), mae’r asiantaeth fabwysiadu’n dod i benderfyniad ynglŷn â pha mor addas yw’r darpar fabwysiadwr.

Bydd y Rheoliadau Diwygio hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu atgyfeirio plentyn at Gofrestr Fabwysiadu Cymru cyn pen un mis i’r dyddiad y cafodd yr asiantaeth fabwysiadu ei hawdurdodi i leoli’r plentyn i’w fabwysiadu. Bydd gofyn iddynt hefyd atgyfeirio darpar fabwysiadwr at y Gofrestr Fabwysiadu cyn pen un mis i’r dyddiad y penderfynodd yr asiantaeth fod y darpar fabwysiadwr yn addas i fabwysiadu plentyn.

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, (“Rheoliadau Rhif 2”) yn gosod gofyniad ychwanegol ar asiantaethau mabwysiadu, wrth asesu pa mor addas yw cwpl i fabwysiadu plentyn, yn ystod Cam Dau o’r broses, i roi sylw priodol i’r angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i asesu’r system fabwysiadu yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig y cymorth gorau posibl i blant a theuluoedd. Bydd hyn yn golygu y bydd y plant hynny sy’n methu dychwelyd adref neu sy’n methu cael gofal gan eu teulu ehangach yn gallu cael eu lleoli i’w mabwysiadu gan deuluoedd diogel a sefydlog. Bydd y newidiadau i’r rheoliadau yn gwneud cryn dipyn i wella’r system bresennol yng Nghymru.

Bydd y newidiadau yn gwneud y broses gyffredinol o gymeradwyo yn fwy syml ac effeithlon. Nid yn unig y bydd hyn yn arwain at arbedion canlyniadol ar gyfer yr asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, bydd hefyd o fudd i’r plant a’r darpar fabwysiadwyr gan y bydd yn gwneud y system yn llai biwrocrataidd ac yn fwy amserol ac effeithlon.

 

Bydd y newidiadau hefyd yn lleihau’r cyfnod aros i blant cyn cael eu paru â theulu maeth sefydlog, drwy roi mynediad ar unwaith at system genedlaethol. Drwy’r system genedlaethol honno, bydd modd ystyried yr amrywiaeth fwyaf eang o gysylltiadau ar draws Cymru a (lle y bo’n briodol) rannau eraill o’r DU. Bydd y newidiadau hyn yn golygu bod mwy fyth o baru o ansawdd uchel rhwng plentyn â theulu maeth a bod y berthynas rhyngddynt yn fwy tebygol o barhau.

Rwyf am i’r system fabwysiadu yng Nghymru fod y gorau y gall fod. Rwy’n credu y dylai pob plentyn gael cynnig y cyfle gorau i ffynnu mewn awyrgylch teuluol diogel, lle mae eu hanghenion sylfaenol yn cael eu bodloni a lle gallant fwynhau’r un cyfleoedd ag unrhyw blentyn arall. Yn achos rhai plant agored i niwed, mae mabwysiadu yn ymyrraeth gadarnhaol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion gofal ac i wella eu canlyniadau yn gyffredinol. Rwyf, felly, wedi ymrwymo i sicrhau bod gwella’r system fabwysiadu yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.