Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben yr Offeryn

  1. Diben yr Offeryn hwn yw sicrhau nad yw’r Deyrnas Unedig yn mynd yn groes i’w hymrwymiadau o dan y Cytundeb Amaeth â Sefydliad Masnach y Byd (“WTO”) mewn perthynas â chymorth domestig.
  1. Mae Rhan 6 o Ddeddf Amaeth 2020 yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i’r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y DU yn parhau i gydymffurfio â’i hymrwymiadau o dan Gytundeb Amaeth y WTO o ran categoreiddio cymorth domestig a rhoi rhybuddion, a’i hymrwymiad i leihau cymorthdaliadau all lurgunio’r farchnad.

Mae’r Offeryn hwn yn darparu fel a ganlyn:

  1. Mae Rheoliad 4(2) yn pennu pa ganran o Fesur Cyfanredol o Gymorth y DU (“AMS”) y caiff pob gweinyddiaeth ei ddefnyddio.  Yr AMS yw cyfanswm y cymorth y caiff gwlad sy’n aelod o’r WTO ei roi.  Mae’r terfynau wedi’u creu i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â’i hymrwymiad o ran yr AMS ac nad oes cyfyngiadau ar y dewis o bolisi.
  1. Y symiau a nodir yn rheoliad 4(2) yw terfynau AMS pob un o wledydd y DU ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wariant o’r ‘gronfa’.  Y ‘gronfa’ yw’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm y symiau yn rheoliad 4(2) a chyfanswm y cymorth blwch Melyn y caiff y DU ei roi o dan y Cytundeb Amaeth.  Disgwylir y bydd y gronfa’n caniatáu ar gyfer mesurau argyfwng y blwch Melyn, a dibenion penodol erail fel ag a geir yn rheoliad 4(3).
  1. O dan reoliad 5, pan fydd gweinyddiaeth am gyflwyno cynllun cymorth newydd neu newid cynllun cymorth, rhaid iddi roi rhybudd i’r gweinyddiaethau eraill.  Bydd proses ‘garlam’ ar gael pan na fydd newid cynllun yn golygu newid categori’r cynllun.
  1. Mae rheoliad 5 yn nodi’r broses i awdurdod y cynnig roi gwybod am gynllun cymorth newydd neu ddiwygiedig. O dan reoliad 5(6), mae gofyn i weinyddiaeth y cynnig awgrymu categori ar gyfer y cynllun (blwch Gwyrdd, Glas neu Felyn) a rhoi tystiolaeth i gefnogi’r dewis o gategori.
  1. Mae rheoliad 6 yn nodi’r broses ar gyfer penderfynu ar gategori cynllun ac mae’n cynnwys proses ar gyfer herio’r categori a gynigir ar gyfer cynllun cymorth domestig newydd neu ddiwygiedig.
  1. O dan reoliad 7, ni chaniateir mabwysiadu cynllun newydd neu ddiwygiedig os gallai hynny arwain at dorri terfyn AMS y weinyddiaeth a bennir yn adran 4(2).
  1. Er mwyn cydymffurfio â’i hymrwymiadau i’r WTO, mae gofyn i Lywodraeth y DU hysbysu’r WTO am ei chymorth domestig bob blwyddyn.  Mae rheoliad 8 yn nodi’r wybodaeth y bydd gofyn i bob gweinyddiaeth ei darparu er mwyn i Lywodraeth y DU allu cyflawni’r ymrwymiadau hyn.
  1. Mae rheoliad 9 yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn i’r gweinyddiaethau am ragor o wybodaeth o ran y rhybuddion sy’n ofynnol o dan y Cytundeb Amaeth neu o ran anghydfodau â llofnodwyr eraill  y Cytundeb.

Mae’r Offeryn a’i Femorandwm Esboniadol sy’n nodi’r manylion ar gael yma:

 https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2020/9780348214987/introduction

Unrhyw effaith y gallai’r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Pam y cafodd cydsyniad ei roi?

  1. Gan ddilyn yr egwyddorion yn y Cytundeb Rhynglywodraethol, cafodd Cytundeb Dwyochrol ei wneud rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Roedd y Cytundeb yn gofyn i Lywodraeth y DU ymgynghori â’r Gweinyddiaethau Datganoledig a cheisio’u cytundeb cyn bwrw ymlaen â gwneud rheoliadau at bwrpas sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cydymffurfio â’i hymrwymiadau o dan y Cytundeb Amaeth.
  1. Mae’r darpariaethau y gellid eu gwneud yn cynnwys gosod terfynau ar faint o gymorth domestig a ddarperir yn y Deyrnas Unedig a’r prosesau i’r awdurdodau priodol benderfynu sut y dylid categoreiddio gwahanol fathau o gymorth domestig.  
  1. Mae’r Cytundeb Dwyochrol yn nodi mecanwaith cadarn a thryloyw ar gyfer datrys anghydfodau y gall Gweinidogion Cymru fod ynghlwm wrthynt wrth wneud a gweithredu’r Offeryn.