Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rydw i'n falch i gyhoeddi bod y Rheoliadau drafft a fydd yn ei gwneud hi’n orfodol i osod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w hystyried. Cynhelir trafodaeth ar hyn yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Hydref.
Wrth fynd â nhw yn eu blaen, gwnaethom gyflwyno ein Rheoliadau drafft, ynghyd â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, i'r Aelod-wladwriaethau drwy'r Comisiwn Ewropeaidd. Cafwyd cyfnod o aros o 3 mis ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr Aelod-wladwriaethau na'r Comisiwn Ewropeaidd.
Rydym bellach yn mynd ati i gyflwyno'r drefn orfodol o osod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru ym mis Ebrill 2016; mae hyn yn unol â'r dyddiad a gyhoeddwyd ar gyfer cyflwyno'r drefn orfodol o osod microsglodyn ar gŵn yn yr Alban ac yn Lloegr.
Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion cyfatebol yn Lloegr ar faterion trawsffiniol gan fod cŵn yn cael eu symud dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn rheolaidd. Rydw i'n gallu gweld y manteision a ddaw o gydweithio'n agos. Hefyd, o gofio bod y rhai sy'n cynnig gwasanaethau microsglodynnu yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, mae gofyn cysoni safonau a chyd-drefnu’n gwaith yng Nghymru a Lloegr.
Mae lles anifeiliaid yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a hynny'n unol â’r Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid. Credir yn gryf y bydd gosod microsglodion yn cael effaith bositif ar y drefn o gysylltu cŵn â'u perchnogion, ac yn y pendraw, yn cysylltu’r cŵn yn ôl at y bridwyr. Bydd hynny'n annog perchnogion i fod yn fwy cyfrifol.