Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf eich hysbysu bod ymgynghoriad cyhoeddus arall wedi cael ei lansio heddiw ynghylch gwneud gosod microsglodion ar gŵn yn orfodol yng Nghymru.

Yn 2012, cynhaliwyd ymgynghoriad ar egwyddorion polisi cyffredinol gosod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru. Roedd 84% o’r ymatebwyr yn cefnogi ei gwneud yn orfodol gosod microsglodion ar gŵn. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, datblygwyd rhai meysydd penodol o’r polisi gyda chymorth rhanddeiliaid pwysig. Rwyf wedi penderfynu felly bod angen cynnal ymgynghoriad arall, hynny er mwyn ystyried safbwyntiau ehangach ar rai o’r elfennau penodol yr wyf yn cynnig eu cyflwyno yn y Rheoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys gorfodi, pwy yn union fydd yn gosod y microsglodyn ar y ci, sut mae cofnodi unrhyw wybodaeth a pha wybodaeth i’w chofnodi.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos ac fe ddaw i ben ar 10 Mai 2015.

Yn dilyn y broses ymgynghori a drafftio’r Rheoliadau arfaethedig, bydd Gweinidogion Cymru’n hysbysu’r Aelod-wladwriaethau drwy’r Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau. Yna, cyn y bydd modd cyflwyno’r Rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd yn rhaid cadw at gyfnod segur o dri mis o’r dyddiad yr hysbyswyd y Comisiwn.

Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 16 Chwefror 2015, rydym yn anelu tuag ei gwneud hi’n orfodol gosod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru o wanwyn 2016 ymlaen. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dyddiad a gyhoeddwyd ar gyfer system orfodol o’r fath yn Lloegr ac, fel y cyhoeddwyd yn fwy diweddar, yn yr Alban.