Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diwygio ei Rheolau Mewnfudo er mwyn darparu hawliau ychwanegol i gael arian cyhoeddus, sy’n cynnwys mynediad at dai a chymorth ar gyfer digartrefedd, i bobl a ddaw i’r Deyrnas Unedig i ddianc rhag y gyflafan. Mae'r gwelliannau hynny hefyd yn berthnasol i bobl sydd yn y DU ar hyn o bryd nad ydynt yn gymwys neu y bydd eu caniatad yn cwblhau cyn i'r gyflafan dod i ben. I sicrhau bod y gyfraith tai yng Nghymru yn cyd-fynd â’r Rheolau Mewnfudo, er mwyn gallu gwneud y grŵp o bobl hynny yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth digartrefedd, mae’n fwriad gennyf i osod drafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 (“y Rheoliadau drafft 2022”) gerbron y Senedd. Bydd y rhai sy’n gymwys, gan gynnwys gwladolion Prydain neu’r rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, wedi’u heithrio o’r prawf preswylio fel arfer.
Gan fod pobl eisoes yn cyrraedd Cymru o'r Wcráin, rhaid gwneud y newidiadau hyn cyn gynted â phosibl. O ganlyniad, caiff Rheoliadau drafft 2022 eu gosod ar 8 Ebrill i'w hystyried gan y Senedd ar 26 Ebrill. Sylweddolaf fod y broses garlam hon ar gyfer ystyried Rheoliadau drafft 2022 yn anarferol, ond rwyf wedi cymryd y cam hwn oherwydd yr angen ymdrin â’r sefyllfa ar frys a'r ansicrwydd posibl o ran sut i drin pobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i geisio’u cymorth ar gyfer ystyried y Rheoliadau ar frys, fel y gall Aelodau’r Senedd weld adroddiad y Pwyllgor cyn y ddadl ar 26 Ebrill 2022.