Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar drais a chamdriniaeth. Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau perthnasol ar gomisiynu gwasanaethau ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n adeiladu ar y canllaw ar arferion da “Tackling Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence - A Collaborative Commissioning Toolkit for Services in Wales”.

Heddiw, gosodwyd Canllawiau Comisiynu Gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Canllawiau yn cefnogi Erthygl 7 o Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a threchu trais yn erbyn menywod a thrais domestig ("Confensiwn Istanbwl"), a lofnodwyd gan y DU, drwy gefnogi ac annog dulliau cydweithredol o weithio rhwng awdurdodau perthnasol a darparwyr eraill.

Bydd Canllawiau Comisiynu Gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn hybu gwaith comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson, mwy effeithiol ac sydd wedi'u seilio ar anghenion er mwyn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i ddiogelu a helpu dioddefwyr yng Nghymru. Bydd yn helpu i gefnogi gwaith comisiynu ymyriadau integredig ar sail tystiolaeth gan wasanaethau arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Gwneir hyn er mwyn bodloni diben y Ddeddf i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; ac er mwyn diogelu a helpu dioddefwyr.

Rydym eisiau creu Cymru sy’n fwy diogel nag unlle i fyw ac yn dymuno annog pobl sy'n cael eu cam-drin i ofyn am gymorth. Rydym eisiau i Gymru ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf, ac i gyflawni hynny mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael cyngor a chymorth o'r safon uchaf bosibl pan fyddant yn mynd am help. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn, sydd wedi'u seilio ar anghenion, yn parhau i fod ar gael I ddinasyddion yng Nghymru.