Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn rheoli nifer o bysgodfeydd cocos cyhoeddus dan drwydded o amgylch arfordir Cymru. Mewn ymateb i alwadau am welliannau yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein pysgodfeydd cocos, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer newid yn 2022.  Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn gryf o blaid y mesurau arfaethedig, ac rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymateb. 

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi bod Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgodfeydd Cocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 wedi dod i rym. Bydd y Gorchymyn hwn, am y tro cyntaf, yn cyflwyno system reoli gydlynol ac addasol ar gyfer pob un o'r pysgodfeydd cocos cyhoeddus yng Nghymru mewn ardaloedd penodedig.  Bydd yn adeiladu ar fentrau eraill a gyflwynwyd gan y llywodraeth hon i gyflwyno rheolaeth mwy hyblyg o bysgodfeydd i sicrhau cynaliadwyedd.

Bydd y Gorchymyn yn helpu i warchod stociau cocos a chynefinoedd a rhywogaethau rhynglanwol sensitif sy’n byw yn agos. O ganlyniad, bydd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor pysgodfeydd cocos yng Nghymru, fel eu bod yn parhau i ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau arfordirol yn y dyfodol. 

Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i gyflwyno cyfundrefnau rheoli hyblyg tebyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ystod o stociau eraill er mwyn diogelu'r amgylchedd morol a'r diwydiant pysgota yng Nghymru.