Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Ym mis Mawrth 2016, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig i ddirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012. Yn dilyn ystyried y mater a’r ymatebion i’r ymgynghoriad, rwyf wedi penderfynu gyrru ymlaen gyda dirymu'r Gorchymyn.

Bydd dirymu'r Gorchymyn yn dileu’r ddyletswydd sydd gan awdurdodau lleol i gasglu set o 25 o Ddangosyddion Strategol Cenedlaethol penodol. Ni fydd y dirymiad yn lleihau’r wybodaeth sydd ar gael fel sail i asesu perfformiad awdurdodau lleol. Dim ond dileu'r ddyletswydd statudol i gasglu rhai dangosyddion penodol fydd y dirymiad hwn, a bydd yn golygu bod modd bod yn fwy ymatebol i anghenion sy’n newid wrth gasglu data.

Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw adroddiad cryno o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch i’r ymatebwyr am eu sylwadau.