Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Deddf Cymru 2017 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017 a daeth mwyafrif ei darpariaethau i rym ar y Prif Ddiwrnod Penodedig, sef 1 Ebrill 2018. Mae'r Ddeddf yn sylfaen i becyn o ddiwygiadau i setliad cyfansoddiadol Cymru, sydd hefyd yn cynnwys trosglwyddo i Weinidogion Cymru amryw o swyddogaethau sydd gan Weinidogion y DU ar hyn o bryd, yn rhannol o ganlyniad i ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol yn y Ddeddf.

Gwnaed Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 ar 23 Mai 2018, a daeth i rym ar 24 Mai 2018. Mae'r Gorchymyn yn

• trosglwyddo oddi wrth Weinidogion y Goron i Weinidogion Llywodraeth Cymru swyddogaethau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017

• trosglwyddo oddi wrth Weinidogion y Goron i Weinidogion Llywodraeth Cymru  swyddogaethau sydd eisoes o fewn cymhwysedd, ond nad ydynt wedi’u trosglwyddo cyn hyn

• trosglwyddo swyddogaethau yn Rhan I o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.

Mae’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau yn gam pwysig tuag at gysoni cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad â chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Mae’r Gorchymyn yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru swyddogaethau yn Rhan 1 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, swyddogaethau’n ymwneud â Thâl ac Amodau Athrawon a rhai’n ymwneud ag Etholiadau, yn ogystal â nifer o swyddogaethau eraill.

Gellir gweld y Gorchymyn drwy'r ddolen isod:

https://www.legislation.gov.uk/uksi/2018/644/pdfs/uksi_20180644_en.pdf