Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Orchymyn drafft Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024, a osodwyd gerbron Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU ym mis Mai. 

Mae'r Gorchymyn bellach wedi'i gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU, ac mae wedi cael ei wneud gan Ei Fawrhydi mewn cyfarfod o'r Cyfrin Gyngor ar 6 Tachwedd 2024.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.