Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Orchymyn drafft Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024, a osodwyd gerbron Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU ym mis Mai. Gwnaethom addo y byddem yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Rwy'n cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwn gan fod gennyf gyfrifoldeb dros y maes dan sylw erbyn hyn.

Mae dadl ar gynnig sy'n ceisio cymeradwyaeth Tŷ'r Cyffredin i'r Gorchymyn drafft wedi'i threfnu ar gyfer 8 Hydref. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ddyddiad ar gyfer cynnal dadl yn Nhŷ'r Arglwyddi, er ein bod yn rhag-weld y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol agos. Yn amodol ar gymeradwyaeth y ddau Dŷ, bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cyfrin Gyngor i'w wneud gan Ei Fawrhydi. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau unwaith y bydd y Gorchymyn wedi'i wneud.