Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, sy’n gosod isafswm cyflog yr awr i bob gweithiwr ym maes amaeth, garddwriaeth ac amaeth-goedwigaeth yng Nghymru, yn ogystal â’u hamodau cyflogaeth gofynnol.
Mae’r cyfraddau wedi’u seilio ar gyngor Panel Cynghori Amaethyddol annibynnol Cymru. Bydd y Gorchymyn newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 ac yn:
- cynyddu’r cyfraddau a’r lwfansau isafswm cyflog;
- cynnwys gweithwyr asiantaethau a gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan feistri criwiau nad oes ganddynt gontract o wasanaeth yn uniongyrchol gyda’r cyflogwr;
- diwygio’r geiriad ynghylch cyfnodau gwyliau blynyddol; ac yn
- diwygio’r broses o gyfrifo tâl gwyliau i weithwyr sydd ag oriau amrywiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i amcanion Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae gan y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth gyswllt uniongyrchol â brwydro yn erbyn tlodi yng nghefn gwlad Cymru a chefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn derbyn cyflog teg, sy’n cydnabod y rôl bwysig maent yn ei chwarae yn sector amaethyddol Cymru wrth gyfrannu at yr economi a’r amgylchedd wledig, yn hollbwysig ac mae’n nod allweddol gan y Llywodraeth hon. Mae’r Gorchymyn hwn yn cryfhau fy ymrwymiad i gefnogi hyfywedd y sector amaethyddol yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rwy’n ddiolchgar i’r Panel a’i Gadeirydd, Dr Nerys Llewelyn Jones, am eu hymdrechion sylweddol wrth gyflwyno’r Gorchymyn Cyflogau newydd.