Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2019 cyhoeddais yr ymgynghoriad ‘Brexit a'n Moroedd’ fel y cam cyntaf tuag at ddatblygu polisi pysgodfeydd sy'n gweithio i Gymru. Un o'r materion allweddol a nodwyd oedd yr angen am systemau rheoli mwy modern a hyblyg i sicrhau cynaliadwyedd stociau nad ydynt yn rhan o’r cwota.

Yn sgil hyn, ym mis Mawrth 2020 cyhoeddais ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer mesurau newydd o ran rheoli cregyn moch gan gynnwys:

  • Cynllun awdurdodi ar gyfer pob cwch sy'n mynd â chregyn moch â chewyll ym mharth Cymru, 
  • Terfyn blynyddol ar gyfanswm y cregyn moch y gellir ei gymryd o barth Cymru, 
  • Terfyn dalfa misol hyblyg ar gyfer pob cwch awdurdodedig.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mehefin 2020 a chafodd ei ymestyn yn ddiweddarach i 1 Tachwedd 2020 oherwydd y tarfu yn sgil pandemig COVID-19 yn ystod y cyfnod ymgynghori gwreiddiol. Cafwyd cyfanswm o 60 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd amser i ymateb. Roedd cefnogaeth gref o blaid y mesurau arfaethedig yn yr ymgynghoriad.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn dod i rym. Bydd y Gorchymyn hwn, am y tro cyntaf, yn cyflwyno system reoli addasol ar gyfer stoc nad yw'n rhan o’r cwota yng Nghymru i alluogi ymyriadau mwy amserol mewn ymateb i newidiadau o ran lefelau stoc a'r amgylchedd.

Bydd y Gorchymyn yn gwarchod y stoc cregyn moch a’r amgylchedd morol ehangach ym mharth Cymru. O’r herwydd bydd yn sicrhau cynaliadwyedd y bysgodfa fel ei bod yn parhau i ddiogelu'r manteision cymdeithasol ac economaidd y mae'n eu darparu i gymunedau arfordirol. Rwyf yn parhau'n gwbl ymrwymedig i gyflwyno cyfundrefnau rheoli hyblyg tebyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth o stociau eraill i ddiogelu'r amgylchedd morol a’r diwydiant pysgota yng Nghymru.