Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Lesley Griffiths
Mae ciniawau ysgol a llaeth am ddim ar gael i deuluoedd sy’n derbyn taliadau cymorth penodol. Mae gan blant y mae eu rhieni’n derbyn y taliadau cymorth canlynol hawl i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Gysylltiedig ag Incwm
- Credyd Treth Plant, os nad ydynt â hawl i Gredyd Treth Gwaith ac os nad yw eu hincwm blynyddol yn fwy nag £16,190. (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy’n gyfrifol am asesu lefel yr incwm blynyddol.)
- Elfen warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl peidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
Bydd Credyd Cynhwysol yn raddol yn cyflwyno taliad sengl yn lle nifer o’r taliadau cymorth hyn. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol ledled y DU o Hydref 2013 a bydd ar gael ymhobman erbyn 2017.
Mae’r Rhaglen Fraenaru Credyd Cynhwysol gychwynnol yn para o 29 Ebrill hyd Hydref 2013, ac mae’n derbyn hawliadau ar gyfer pobl sengl nad oes neb yn ddibynnol arnynt mewn codau post dethol ym Manceinion Fwyaf a Swydd Gaer. I hyn effeithio ar blant yng Nghymru, byddai’n rhaid i rywun sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar y Rhaglen Fraenaru (1) cadw’i hawl i Gredyd Cynhwysol, (2) symud i Gymru a (3) sefydlu cartref gyda rhywun â phlant o oedran ysgol.
Wrth i’r Rhaglen Fraenaru ennill ei phlwyf, a chyda’r flwyddyn ysgol newydd yn agosáu a’r gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn raddol yn cychwyn yn Hydref 2013, mae’n amser priodol i wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth yng Nghymru.
Rwyf felly wedi cytuno i osod Gorchymyn o dan adran 512ZB(4) o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ciniawau ysgol/llaeth am ddim gael eu hestyn i gynnwys derbyn Credyd Cynhwysol. Gorchymyn interim fydd hwn tra bod meini prawf cymhwysedd newydd yn cael eu datblygu, a fydd yn adlewyrchu cyflwyniad ehangach Credyd Cynhwysol.
Mae’n debygol mai dim ond ar nifer fach o blant (os byddai rhai o gwbl) y byddai’r Gorchymyn yn effeithio i gychwyn, felly ni ddisgwylir y byddai’n rhoi baich ariannol gormodol ar awdurdodau lleol. Mae’n bosibl y gallai unrhyw dderbynwyr Credyd Cynhwysol, sy’n hawlio ciniawau ysgol/llaeth am ddim, fod â hawl p’run bynnag i hawlio ciniawau ysgol/llaeth am ddim pe baent wedi parhau ar eu taliadau cymorth blaenorol.
Prin iawn yw’r wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd ar gyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno, gan gychwyn gyda chwe phrif Ganolfan Waith a fydd yn derbyn hawliadau newydd am y budd-dal, yn cynnwys Canolfan Waith yn Shotton, Gogledd Cymru. Fodd bynnag, nid oes gwybodaeth fanwl ar hyn o bryd, er bod y DWP wedi dweud y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn yr hydref. Pan fydd gennym wybodaeth fanylach, bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddatblygu meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer ciniawau ysgol/llaeth am ddim.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i sicrhau bod aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn pan ddaw’r Cynulliad yn ôl byddwn yn ddigon parod i wneud hynny.