Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n arfer fy mhwerau dan adran 87 Deddf Llywodraeth Leol 2000 i gyflwyno Gorchymyn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy'n newid blwyddyn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin o'r dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2021 i ddydd Iau cyntaf mis Mai 2022.

Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd ei benderfyniad i newid blwyddyn etholiadau llywodraeth leol cyffredin o fis Mai 2016 i fis Mai 2017 fel na fyddai etholiadau llywodraeth leol yn cyd-daro ag etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Ar hyn o bryd, cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin yng Nghymru ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Mae'r etholiadau nesaf wedi'u trefnu ar gyfer mis Mai 2021. Dyma ddyddiad etholiad nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd.

Diwygiodd Deddf Cymru 2017 Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac mae'n atal cynnal etholiadau llywodraeth leol ar yr un diwrnod ag etholiadau cyffredin i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae angen i Weinidogion Cymru newid blwyddyn etholiadau llywodraeth leol drwy Orchymyn.

Nid yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 yn newid cylch etholiadau llywodraeth leol. Bydd ond yn symud yr etholiadau llywodraeth leol  cyffredin  nesaf un flwyddyn o fis Mai 2021 i fis Mai 2022. 

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno deddfwriaeth i newid tymor swydd aelodau etholedig llywodraeth leol yn barhaol i bum mlynedd. Y bwriad yw  gwneud hwn trwy  Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)   a fydd yn  cael ei gyflwyno yn yr hydref.