Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n hollbwysig bod plant a phobl ifanc, rhieni a’r gweithlu addysg yn teimlo’n hyderus bod pob cam posibl yn cael ei gymryd i’w diogelu wrth iddynt ddychwelyd i’w hysgolion a’u colegau. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau gweithredu i ysgolion a cholegau, ac mae ysgolion wedi gweithio’n galed i roi’r mesurau diogelwch ar waith. Roedd agor ysgolion i ddisgyblion cyn diwedd tymor yr haf er mwyn ailgydio, dal i fyny a pharatoi yn gyfle i ysgolion dreialu’r mesurau hyn.

Heddiw rydym yn cyhoeddi’r cyngor ychwanegol a luniwyd gan y Grŵp Cynghori Technegol yn dilyn ei adolygiad o ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion. Mae’r cyngor hwnnw ar gael yn: https://llyw.cymru/y-grwp-cyngor-technegol-gorchuddion-wyneb-i-blant-phobl-ifanc-mewn-lleoliadau-addysg

Mae’n seiliedig ar gyhoeddiadau ysgrifenedig diweddar gan Brif Swyddogion Meddygol a Dirprwy Brif Swyddogion Meddygol y DU a Sefydliad Iechyd y Byd.  

Y cyngor a roddwyd inni yw, er nad yw gorchuddion wyneb yn gwneud gwahaniaeth mawr ymhlith plant o dan 11 oed, fod y cyfraddau heintio a throsglwyddo yn cynyddu o 11 oed ymlaen, ac y gallai gorchuddion wyneb helpu i leihau’r risg.

Y cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ar hyn o bryd yw ein bod yn argymell bod pob aelod o’r cyhoedd sydd dros 11 oed yn gwisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a cherbydau cludo dysgwyr i’r ysgol.

Byddwn yn diwygio ein canllawiau gweithredu i ysgolion a sefydliadau addysg bellach i’w gwneud yn ofynnol i leoliadau ac awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg o’u hystadau er mwyn penderfynu p’un a ddylid argymell bod eu staff a’u pobl ifanc yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cerbydau cludo dysgwyr i ysgolion a cholegau.

Wrth asesu’r risg, rydym yn argymell bod staff, myfyrwyr, teuluoedd ac undebau yn rhan o’r broses. Mae’n dal i fod yn ofynnol cadw pellter cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth, ac felly gall addysgu wyneb yn wyneb barhau heb wisgo gorchuddion. Rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol y person ifanc yn yr asesiadau hyn, a rhaid sicrhau nad oes perygl na fyddant yn gallu defnyddio cerbydau cludo i’r ysgol. Os argymhellir gwisgo gorchuddion wyneb yn lleol, mae’n bosibl y bydd angen eu darparu i bobl ifanc nad oes ganddynt rai.

Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y gymuned yn isel, ond rydym yn disgwyl gweld clystyrau, a allai olygu y bydd angen mesurau rheoli lleol ychwanegol. Yn ogystal â’r cymorth a’r cyngor a roddir gan ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, dylid cymryd y mesurau hyn yn unol â Chynllun Rheoli’r Coronafeirws a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu’n gyson wrth i’r pandemig barhau, ac mae’n bosibl y byddant yn newid os bydd nifer yr achosion yn y gymun