Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Fis diwethaf, gwnes ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi gwybod i'r Aelodau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud a gosod Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2024 gerbron Senedd y DU. Gosodais innau Orchymyn drafft Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 gerbron Senedd Cymru, ar yr un diwrnod ag y gosododd yr Ysgrifennydd Gwladol ef gerbron Senedd y DU. Mae'r ddau offeryn statudol yn codi o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol o'r hyn y mae diddymu Senedd y DU yn ei olygu i'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth.
Mae Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2024 wedi'i wneud ac mae'n ddarostyngedig i'w ddiddymu gan Senedd y DU. Mae'r Gorchymyn i ddod i rym naill ai ar y diwrnod y daw adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym, neu 1 Awst 2024, pa un bynnag sydd hwyraf. Nid yw Llywodraeth y DU o'r farn y bydd diddymu Senedd y DU yn effeithio ar y Gorchymyn hwn.
Ni ellir gwneud Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 nes iddo gael ei gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU, a Senedd Cymru. Mater i Lywodraeth newydd y DU fydd cyflwyno cynnig newydd yn ceisio cymeradwyaeth y ddau Dŷ. Er hynny, nid oes rheswm pam na ddylai ystyriaeth Senedd Cymru o'r Gorchymyn fynd yn ei blaen fel y bwriadwyd. Ar hyn o bryd, mae dadl ar y Gorchymyn wedi'i threfnu ar gyfer 18 Mehefin.
Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y hynt y Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor yn dilyn yr etholiad.