Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Fis Tachwedd 2011, cyhoeddais fy mod o’r farn y dylid newid blwyddyn yr etholiad cyffredin i ethol cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn, gan ei gynnal flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mai 2013 yn hytrach na mis Mai 2012. Cyhoeddais hynny yn sgil adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth 2011. Roedd hwn yn argymell rhaglen o adnewyddu democrataidd ar gyfer y Cyngor, gan gynnwys adolygiad o’i drefniadau etholiadol gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac y dylai unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. Yn ei adroddiad, aeth yr Archwilydd Cyffredinol yn ei flaen i argymell, pe na bai hi’n bosibl gweithredu’r newidiadau i’r trefniadau etholiadol yn sgil adolygiad y Comisiwn Ffiniau cyn etholiadau 2012, y dylid ystyried defnyddio’r pŵer o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i ohirio’r etholiad tan fis Mai 2013.
Fe ymgynghorais â llywodraeth leol, y pleidiau gwleidyddol, ynghyd â chyrff a mudiadau eraill sydd â diddordeb, ar y cynnig hwn. Rwyf wedi ystyried y mater hwn a’r sylwadau a gyflwynwyd erbyn hyn, ac wedi penderfynu gweithredu fy mhwerau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i newid y flwyddyn pan gynhelir yr etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned ar Ynys Môn, o fis Mai 2012 i fis Mai 2013.
Bydd fy mhenderfyniad yn golygu y gall y Comisiwn Ffiniau gwblhau ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn, y gellir ystyried y cynigion, ac y gellir cyflwyno unrhyw newidiadau i nifer y cynghorwyr a’u dosbarthiad pe bawn i’n penderfynu gwneud hynny. Bydd hefyd yn cynnig sefydlogrwydd wrth i’r Cyngor symud i gyfeiriad adferiad ehangach o’r problemau a amlinellodd yr Archwilydd Cyffredinol.
Bydd y Comisiynwyr a benodwyd gennyf i redeg y cyngor fis Mawrth diwethaf yn parhau yn eu lle hyd nes y byddaf yn fodlon bod y Cyngor yn gallu rhedeg ei faterion ei hun mewn modd cynaliadwy. Ni fydd hynny’n dibynnu ar amseriad yr etholiadau. Rwy’n monitro’r cynnydd y mae’r Cyngor yn ei wneud o dan arweiniad y Comisiynwyr yn ofalus, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Cynulliad yn y man.
Rwyf wedi penderfynu ar y mater hwn mor gynnar â phosibl er mwyn rhoi digon o rybudd i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r broses etholiadol.
Caiff Gorchymyn ei baratoi yn awr er mwyn gweithredu fy mhenderfyniad.