Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nid yw’r pandemig drosodd ac ein cyngor cryf o hyd yw peidio â theithio tramor oni bai ei fod yn hanfodol. Nid yw’r risg o ail-fewnforio’r coronafeirws o rannau eraill y byd, ac amrywiolynnau newydd ychwanegol yn benodol, wedi mynd i ffwrdd.
Pan fo teithio rhyngwladol yn hanfodol, rhaid i breswylwyr Cymru ymgynghori â’r gofynion am ymwelwyr am unrhyw wlad y bwriadant deithio iddi. Gallai fod profion yn ofynnol wrth gyrraedd. I’r sawl sy’n bwriadu teithio i Gymru, ein gofynion o hyd yw i bobl gymryd profion cyn teithio ac ar ôl cyrraedd yng Nghymru. Rhaid i bob teithiwr gymryd prawf cyn-ymadael hyd at 72 awr cyn teithio a chyflwyno prawf o brawf negyddol i gludwyr. Yn ogystal, rhaid i deithwyr archebu a thalu am brofion PCR gorfodol i’w cymryd ar ôl cyrraedd yng Nghymru. Yn sgil y newidiadau a gyhoeddwyd yr wythnos hon o ran gwledydd rhestr oren, bydd yn rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl o dan 18 gymryd prawf PCR ar neu cyn diwrnod 2 ar ôl cyrraedd yn y DU ac ni fydd gofyn iddynt hunanynysu. Yn absenoldeb hunanynysu bydd yn bwysig iawn cymryd gofal o ran cysylltiad corfforol ag eraill. Dylid osgoi ymweld â phobl mewn ysbyty neu gartref gofal am y 10 niwrnod cyntaf. Bydd yn rhaid i’r rhai nad ydynt wedi’u brechu’n llawn gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 ac ar ddiwrnod 8 a hunanynysu am 10 niwrnod. Rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd o wledydd gwyrdd gymryd prawf PCR ar neu cyn diwrnod 2.
Ystyr wedi’i frechu’n llawn yw eich bod wedi cael eich dos terfynol o frechlyn a gymeradwyir dan raglen frechu’r DU, yn cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlyn COVID-19 a gymeradwyir yn ffurfiol, neu o dan 18 oed ac yn preswylio yn y DU. Mae hefyd yn gymwys os ydych yn breswylydd yn Nhiriogaethau Tramor Prydain sydd wedi’i frechu o dan raglen frechu a gynhelir yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU. Dylech fod wedi cael eich dos terfynol o leiaf 14 diwrnod cyfan cyn y dyddiad y dychwelwch i Gymru. Nid yw’r diwrnod y cewch eich dos terfynol yn cyfrif fel un o’r 14 diwrnod.
Mae’n gritigol y nodir pob achos positif ac amrywiolynnau COVID-19 a allai fod yn niweidiol mor fuan â phosibl.
Am y rheswm hwn, am y tro, ein gofynion yw i’r profion y mae’n rhaid i bobl eu cymryd gael eu darparu gan y GIG. Archebir profion GIG drwy borth gwe CTM. CTM yw’r asiant archebu ar gyfer profion GIG, nid y darparwr profion. Mae’r pris ar gyfer profion GIG yr un peth ledled y DU ac fe’i gosodir gan Lywodraeth y DU. Prosesir profion GIG drwy rwydwaith Labordai Goleudy y DU, sy’n golygu y gallwn nodi achosion positif yn gyflym gyda’r canlyniadau’n llifo’n uniongyrchol i’n system Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn gweithredu arnynt. Gwneir dilyniannu genomig ar brofion positif yn ein cyfleusterau dilyniannu sydd o’r radd flaenaf.
Ceir rhestr o ddarparwyr profion preifat ar wefan Llywodraeth y DU, sy’n cynnig profion PCR, weithiau am brisiau rhatach. Nid yw Llywodraeth y DU yn cymeradwyo nac argymell dim un o’r darparwyr hyn. Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon am y gwasanaeth a ddarperir gan rai o’r darparwyr preifat hyn dros amryw o faterion, gan gynnwys methu â chyflenwi profion a archebwyd a methu â rhoi’r canlyniadau i bobl. Rydym yn benderfynol o amddiffyn cyhoedd Cymru rhag cwmnïau nad ydynt yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gennym.
Gwarchod iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gael sicrwydd mai’r cwmnïau hynny sy’n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol penodol yn unig fydd yn cael darparu profion. Pan gawn y sicrwydd bod y systemau cywir ar gael i warchod cyhoedd Cymru, adolygwn y sefyllfa fel y gallai pobl gael mynediad i brofion gan gwmnïau preifat.
Pan fo digwyddiad penodol â chyfranogwyr rhyngwladol wedi defnyddio ei drefniadau profi preifat ei hun, caniatawn hyn os bydd y trefniadau profi hynny yn bodloni ein safonau ac wedi’u cytuno arnynt gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae ein neges yn glir – i bobl Cymru dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig.