Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn sylwadau gan aelodau lleol, clinigwyr a chynrychiolwyr cymunedol, cyhoeddais ddatganiad ar 24 Ionawr yn nodi fy mwriad i gomisiynu Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) i gynnal astudiaeth annibynnol o’r materion a’r cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd hygyrch, diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel, sy’n gwbl addas at anghenion penodol y bobl sy’n byw yn y Canolbarth. Roedd y datganiad yn amlinellu Cylch Gwaith ac yn rhoi manylion fy nghais i WIHSC wrando ar farn pob math o randdeiliaid er mwyn cwblhau manylion terfynol yr astudiaeth dros gyfnod o 3-4 wythnos.

Mae WIHSC wedi cwblhau ymarfer ymgysylltu estynedig, gan dderbyn ymatebion gan 145 o bobl drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, galwadau ffôn a gohebiaeth ysgrifenedig. Mae crynodeb o’r canfyddiadau cychwynnol i’w weld ar wefan WIHSC. Rwyf wedi ystyried y canfyddiadau’n frwd ac wedi diwygio’r Cylch Gwaith yn unol â hynny.

Mae’r Cylch Gwaith terfynol wedi’i atodi. Mae hyn yn nodi cychwyn ffurfiol yr astudiaeth, a fydd yn cael ei chwblhau erbyn mis Medi eleni. Astudiaeth annibynnol yw hon a fydd yn adrodd yn uniongyrchol i mi. Bydd grŵp monitro contract bach yn cynnwys swyddogion a thîm astudiaeth WIHSC. Ei rôl fydd sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chwblhau mewn ffordd amserol. Ni fydd yn gyfrifol am lywio’r astudiaeth, gyda WIHSC yn cymryd cyfrifoldeb llawn am benderfynu ar y ffordd o gwblhau’r astudiaeth yn unol â’r Cylch Gwaith.

Wedi iddo gael ei gwblhau, byddaf yn ystyried y canfyddiadau’n ofalus a chyda meddwl agored. Byddaf yn disgwyl i Fyrddau Iechyd Hywel Dda, Powys a Betsi Cadwaladr, sy’n gyfrifol, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, am ddiwallu anghenion iechyd pobl sy’n byw yn y Canolbarth, eu hystyried yn eu cynlluniau.