Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyflwyno’r cysyniad o ofal iechyd darbodus yng nghynhadledd Cydffederasiwn GIG Cymru y llynedd. Mewn 12 mis yn unig, ers i Gomisiwn Bevan ddiffinio am y tro cyntaf set o egwyddorion sy’n cydio yn hanfod gofal iechyd darbodus, rydym wedi symud ymlaen o siarad am beth mae’n ei olygu mewn theori i ddechrau cynnwys yr egwyddorion yn arferion bob dydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r ddadl ynghylch gofal iechyd darbodus wedi rhagori ar y disgwyliadau. Mae wedi symud o fod yn gysyniad a rennir gan ychydig o unigolion sydd â diddordeb mawr ynddo i bwnc sy’n cael ei drafod yn eang a’i ddosbarthu gan y GIG a thu hwnt. Mae’n ymddangos mewn papurau bwrdd iechyd; yn ymddangos yng ngwaith ein Colegau Brenhinol; neilltuwyd cynadleddau cyfan i’w drafod ac mae wedi ymddangos yn nhudalennau y British Medical Journal a’r Lancet.

Ers yr wythnos ddiwethaf mae’r set ddiweddaraf o benodau sy’n disgrifio sut y gallai gofal iechyd darbodus weithio yng Nghymru wedi bod ar gael ar adnodd ar-lein Making Prudent Healthcare Happen  www.prudenthealthcare.org.uk. Darllenwyd y set gyntaf o benodau, fideos ac astudiaethau achos, sydd wedi bod ar y wefan ers mis Hydref, filoedd o weithiau gan bobl o bob cwr o’r byd.

Mae Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang o ran ail-ddylunio gwasanaethau iechyd yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus. Yn yr Eidal, gelwir y gwaith hwn yn feddyginiaeth araf; yng Nghanada, mae’r ymgyrch Choosing Wisely yn arwain y ffordd. I iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu ar fomentwm y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r Comisiwn Bevan wedi ymgymryd â darn pellach o waith i gadarnhau egwyddorion gofal iechyd darbodus i Gymru, er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â sicrhau dyfodol iachach i bobl Cymru yn dilyn set gyffredin o egwyddorion.

Pedair egwyddor derfynol y Comisiwn Bevan yw:

  • Sicrhau iechyd a llesiant, gydag aelodau’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal drwy gyd-gynhyrchu;
  • Gofal i’r rheini â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau;
  • Gwneud dim ond beth sydd ei angen a gwneud dim niwed, dim mwy, dim llai;
  • Lleihau amrywiaeth amhriodol gan ddefnyddio arferion yn seiliedig ar dystiolaeth yn gyson ac yn dryloyw.

Fodd bynnag, mae’r cysyniad gofal iechyd darbodus o wneud dim ond beth allwch chi ei wneud yn parhau i fod yn un grymus, yn enwedig o ran gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol darbodus i’r dyfodol. Felly bydd yn bwysig cynnal y cysyniad na ddylai unrhyw weithwyr proffesiynol fod yn darparu gwasanaeth fel mater o drefn nad yw’n gofyn am eu lefel o allu neu arbenigedd clinigol – dim ond gwneud yr hyn allant – wrth i Gymru barhau â’i thaith gofal iechyd darbodus.  
 
Bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol lle bydd rhoi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith yn arbennig o bwysig yn y flwyddyn i ddod. Gyda’n gilydd byddwn yn:

  1. Parhau i roi gofal sylfaenol wrth y llyw yn GIG Cymru, gan roi’r ymrwymiadau yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol ar waith, a gwneud y mwyaf o’r gronfa gofal sylfaenol gwerth £10m ar gyfer 2015-16 a £30m ychwanegol ar gyfer gofal sylfaenol o ddatganiad Cyllideb yr hydref;
  2. Ail-ddylunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol ac adleoli ein hadnodd mwyaf gwerthfawr - y bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys lansio strategaeth genedlaethol ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol; cyhoeddi ac ymateb i adolygiad Mel Evans o addysg gofal iechyd yng Nghymru a chomisiynu adolygiad annibynnol o weithlu’r dyfodol;
  3. Cynnal yr ysgogiad wrth ailfodelu’r berthynas rhwng y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru a’r rheini sy’n eu darparu nhw, gyda chefnogaeth barhaus i Academi Colegau Brenhinol Cymru i ddatblygu ymgyrch Choose Wisely Cymru;
  4. Gyda chefnogaeth y Comisiwn Bevan, byddwn yn agored yn y ffordd rydym yn meddwl am ddarparu gofal i bobl, yn cymryd rhan mewn dadl a symbylwyd gan y British Medical Journal ynghylch gor-driniaeth a gor-ddiagnosis, yn enwedig i bobl sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes.

Ni fydd y meysydd hyn yn unig yn gwneud i ofal iechyd darbodus ddigwydd. Dyma pam rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gynnal egni a thrafodaeth y 12 mis diwethaf.

I gefnogi hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chynhadledd gofal iechyd darbodus gyntaf yn ystod yr haf, a bydd yn cael ei hagor gan y Prif Weinidog. Bydd gan y gynhadledd gyrhaeddiad rhyngwladol ac yn ymwneud â phartneriaid allweddol sy’n hybu twf gofal iechyd darbodus, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG, y Colegau Brenhinol, Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Chymdeithas Feddygol Prydain.