Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 31 Mawrth eleni, gwnaethom ddiwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 er mwyn sicrhau bod holl breswylwyr Wcráin sydd yn y DU yn gyfreithlon yn gallu cael gafael ar ofal iechyd am ddim yng Nghymru ar yr un sail â phreswylwyr Cymru.
Mae’r eithriad rhag gorfod talu costau am wasanaethau’r GIG hefyd yn gymwys ar gyfer priod, partner sifil a phlant y preswylydd sydd hefyd yn y DU yn gyfreithlon. Mewn rhai amgylchiadau, mae hefyd yn gymwys ar gyfer cyd-deithwyr sydd wedi’u hawdurdodi (a’u plant) sy’n dod gyda phobl o Wcráin sy’n cael eu symud i’r DU ar frys ar sail anghenion meddygol er mwyn cael triniaeth.
Roedd y rheoliadau a roddodd effaith i’r diwygiadau hynny yn darparu bod angen i Weinidogion Cymru adolygu’r eithriad erbyn 1 Hydref 2022.
Mae’r cynnig o ofal iechyd am ddim yng Nghymru i breswylwyr Wcráin sydd wedi’u dadleoli yn sgil y gwrthdaro parhaus yn rhan allweddol o’r pecyn cymorth ehangach a roddir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Ar ôl ystyried ac adolygu’r eithriad, rwyf i o’r farn bod angen iddo barhau. Mae hyn ar sail yr angen parhaus i gefnogi gwladolion Wcreinaidd sydd wedi’u dadleoli, gan gynnwys aelodau o’u teuluoedd a chyd-deithwyr sydd wedi’u hawdurdodi (a’u plant) sy’n dod gyda phobl o Wcráin ar gyfer triniaeth feddygol.
Nid yw’n fwriad gennyf gynnal adolygiad pellach o’r eithriad y darparwyd ar ei gyfer yn y rheoliadau cyn diwedd y gwrthdaro oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod yn ymwybodol o newid sylweddol yn yr amgylchiadau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o’r fath.