Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ni ellir  goddef yr achosion o gam-drin ofnadwy oedolion sy’n agored i niwed yng Nghartref Gofal Winterbourne View, yn ymyl Bryste, sy’n eiddo i gwmni Castlebeck. Yn ddealladwy, mae Aelodau’r Cynulliad wedi ceisio cael sicrwydd am y gofal a ddarperir i bobl sydd wedi’u rhoi mewn cartrefi gofal Castlebeck neu unrhyw un o’i is-gwmnïau.

Gofynnodd un o’r Aelodau i roi gwybod a oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol wedi defnyddio cyfleuster Castlebeck neu unrhyw is-gwmni i ofalu am gleifion yng Nghymru, ac os felly, pa gwmnïau a ddefnyddiwyd a pha arolygon sydd wedi cael eu cynnal o’r cartrefi hyn. Cytunais y byddwn yn darparu Datganiad Ysgrifenedig pan oedd yr wybodaeth hon ar gael.

Nid yw Castlebeck yn gweithredu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae dau is-gwmni ganddo sy’n gweithredu yng Nghymru – sef Mental Health Care UK, cwmni sy’n darparu gwasanaethau arbenigol iechyd meddwl ac anabledd dysgu, a Barchester Homes, sy’n darparu cartrefi gofal preswyl.

Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi rhoi 43 o gleifion yng ngofal y cyfleusterau isod yng Nghymru a weithredir gan Mental Health Care UK:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr   Ysbyty Annibynnol Dewi Sant, Corwen
  • Ysbyty Annibynnol Plas Coch, Llanelwy
  • Ysbyty Annibynnol New Hall, Rhiwabon
  • Cartref Gofal Highfield Park, Llandyrnog
  • Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys  Cartref Gofal Holland House, Dinbych

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sy’n gyfrifol am reoleiddio ac arolygu ysbytai annibynnol yng Nghymru. Cynhaliodd AGIC arolygon rheolaidd o’r tri ysbyty annibynnol yn y Gogledd yn ystod y chwe mis diwethaf. Daeth AGIC ar draws rhai achosion o ddiffyg cydymffurfio â nifer o reoliadau a hefyd rhai meysydd i’w gwella o ran safonau gofal. Mae AGIC wedi cael cynlluniau gweithredu oddi wrth y tri sefydliad hyn ac yn mynd ar drywydd yr holl faterion a nodwyd. Dechreuwyd hefyd ar raglen o ymweliadau ar gyfer 2011/12 gan AGIC â phob sefydliad annibynnol anabledd dysgu ledled Cymru.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) sy’n rheoleiddio’r cyfleusterau gofal yn Highfield Park a Holland House. Yn ddiweddar cynhaliodd AGGCC raglen fanwl o arolygon dirybudd ymhob un o gyfleusterau cartrefi gofal Mental Health Care UK yn y Gogledd. Ar y cyfan roedd AGGCC yn hapus â chanlyniad yr arolygon ond hefyd tynnwyd sylw at feysydd lle mae angen eu gwella.

Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi rhoi 141 o gleifion yng ngofal y cyfleusterau isod yng Nghymru a weithredir gan Barchester Homes:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  Cartref Gofal Bradshaw Manor, Y Rhyl
  • Cartref Gofal Bod Hyfryd, y Fflint 
  • Cartref Gofal Rhiwlas, y Fflint
  • Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys  Cartref Gofal Awel y Môr, Abertawe 
  • Cartref Gofal Rhuallt , Y Trallwng
  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan  Cartref Gofal Awel y Môr, Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro  Cartref Gofal Hafan y Coed, Llanelli
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda  Cartref Gofal Maes Teilo, Llandeilo 
  • Cartref Gofal Pant yr Odin, Rhydaman 
  • Cartref Croeso, Caerfyrddin 
  • Cartref Gofal Dan y Graig, Cydweli 
  • Cartref Gofal Glangarnant, Rhydaman 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg  Cartref Gofal Maes Teilo. Llandeilo 
  • Cartref Gofal Awel y Môr, Abertawe

Mae 11 o Awdurdodau Lleol wedi rhoi 53 o gleifion yng ngofal cyfleusterau a weithredir gan Barchester Homes. 

AGGCC sy’n rheoleiddio ac yn arolygu’r cyfleusterau a weithredir gan  Barchester Homes. Mae pob un o’r cartrefi gofal wedi cael eu harolygu gan AGGCC, ac ar hyn o bryd dim ond un cartref sydd â’i ofynion heb ei fodloni.
 
Bydd AGIC ac AGGCC yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar unrhyw faterion sy’n deillio o ganlyniadau eu harolygon.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad yr haf er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad. Os yw’r Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgyfarfod wedi’r toriad, byddwn yn hapus i wneud hynny.