Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn trafodaeth yn y Siambr ar 13 Mawrth, cytunais i ddiweddaru aelodau ar y ddarpariaeth ar gyfer achosion o gamesgoriad.
Ysgrifennodd fy swyddogion at fyrddau iechyd ym mis Ionawr i geisio sicrwydd am y ffordd y caiff gwasanaethau camesgoriad eu darparu yng Nghymru. Yn eu hymateb, rhoddodd y byrddau iechyd sicrwydd eu bod yn gweithio i wneud y gwelliannau priodol lle nad yw elfennau o'u darpariaeth yn cyd-fynd yn llawn â chanllawiau NICE ar Gamesgoriad a Beichiogrwydd Ectopig. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod pob agwedd ar y canllawiau yn cael ei gyflawni mewn modd cyson ar draws Cymru.
Mae fy swyddogion yn ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales', a gyhoeddwyd gan fudiad Fair Treatment for Women of Wales. Mae'r adroddiad yn sôn am brofiadau personol menywod sydd wedi dioddef camesgoriad. Rwy'n pryderu am yr hyn sy'n ymddangos fel lefel ofidus o ddiffyg sensitifrwydd a pharch mewn rhai o'r achosion hyn. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae fy swyddogion eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda grwpiau rhanddeiliad am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i wella'r ffordd y mae menywod sy'n dioddef camesgoriad yn derbyn gofal a chefnogaeth gan fyrddau iechyd yng Nghymru.
Rydym am atgoffa byrddau iechyd bod cymhlethdodau yn ystod cyfnod cynnar beichiogrwydd yn gallu achosi trallod sylweddol i rai menywod a'u partneriaid. Dylai'r bobl sy'n darparu gofal i'r menywod hyn gael hyfforddiant am sut i roi newyddion drwg mewn modd sensitif. Dylai triniaeth a gofal ystyried anghenion a dewisiadau menywod, a dylai menywod gael y cyfle i wneud penderfyniadau deallus am eu gofal a'u triniaeth, mewn partneriaeth â'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.