Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddais fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn giatiau e-basbort newydd ym Maes Awyr Caerdydd.

Bydd y dechnoleg ddiweddaraf hon yn galluogi teithwyr sydd â phasbortau biometrig i osgoi archwiliadau â llaw, ac yn caniatáu mynediad cyflymach i Gymru.

Er mai Maes Awyr Caerdydd oedd un o'r meysydd awyr cyntaf yn y DU i gyflwyno e-giatiau, cafodd y tair giât wreiddiol eu tynnu gan Lu Ffiniau'r DU yn 2017 wrth i'r dechnoleg wreiddiol gael ei disodli. 

Nid yw Llywodraeth y DU yn caniatáu i Lu Ffiniau'r DU osod e-giatiau i feysydd awyr yn rhad ac am ddim, oni bai eu bod yn ymdrin â thros ddwy filiwn o deithwyr, megis Bryste a Heathrow, felly mae Llu Ffiniau'r DU wedi mynnu taliad cyfalaf sylweddol gan Faes Awyr Caerdydd i osod yr e-giatiau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer yr e-giatiau diweddaraf i'w gosod ym Maes Awyr Caerdydd.

Mae 60% yn fwy o deithwyr yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013. Mae modd i deithwyr deithio i lawer mwy o leoedd bellach gyda thros 50 o deithiau uniongyrchol yn cael eu cynnig ynghyd â chysylltiadau i dros 900 o leoliadau eraill gan gynnwys gwasanaeth pellter hir dyddiol i Doha gan Qatar Airways.

Mae'r e-giatiau newydd yn rhan bwysig o'n cynlluniau i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb. Byddant yn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o giwio i ddod i mewn i'r wlad os na fydd y DU yn gallu ymadael yn hwylus â'r UE.

Bydd mynediad haws i Gymru, ac i'r DU, yn gwella profiadau cwsmeriaid ac yn bodloni gofynion Llu Ffiniau'r DU.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i ariannu'r e-giatiau ar ôl i Lywodraeth y DU wrthod gwneud. Mae'r e-giatiau yn cael eu hariannu mewn meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr a dylid ystyried penderfyniad San Steffan i beidio ag ariannu'r e-giatiau yng Nghaerdydd ochr yn ochr â'i benderfyniad i rwystro ein hymgais i sefydlu rhwydwaith o lwybrau hedfan yn rhan o Rwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus i ddinasoedd ledled y DU ac i beidio datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru ar sail dadansoddiad economaidd gwallus iawn.

Fel yr ydym wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, rydym am i Lywodraeth y DU ystyried datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn gyfle yn hytrach na rhwystr, fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai datganoli'r Doll yn llwyddiant i Faes Awyr Caerdydd, i Gymru ac i'r DU.  Bydd datganoli yn ein galluogi i ganolbwyntio ar un o nodau ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi i gysylltu Cymru â gweddill y DU a’r byd.  Fel y dywedais yn fy natganiad ar Gomisiwn Williams i Ddatganoli'r Rheilffyrdd, mae canlyniad penderfyniadau Adran Drafnidiaeth y DU yn golygu bod gan Gaerdydd y cysylltiad reilffyrdd gwaethaf o gymharu ag unrhyw un o ddinasoedd craidd y DU.  Byddai datganoli'r Doll yn ein galluogi i reoli ein tynged ac i wella'r sefyllfa ar ein cyfer ni ein hunain.

Hefyd, rwyf eisoes wedi rhoi gwybod i'r Aelodau ein bod yn gobeithio gwrthdroi penderfyniad Llywodraeth y DU i'n hatal rhag creu rhwydwaith o lwybrau hedfan domestig er mwyn creu gwell cyswllt rhwng Caerdydd a rhannau eraill o'r DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi hen ddylanwadu ar y farchnad er budd meysydd awyr mawr yn Lloegr. Byddai datganoli'r Doll yn helpu i greu cystadleuaeth decach.

Ni ddylem fod wedi gorfod buddsoddi yn yr e-giatiau newydd hyn. Yn anffodus, dyma enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn rhoi buddiannau ambell fusnes mawr yn Lloegr cyn anghenion pobl a busnesau Cymru.