Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Ym mis Ionawr, bu imi gadarnhau, yn dilyn yr adolygiad mewnol o raglen Genesis Cymru Wales 2, bod tangyflawni wedi'i nodi mewn perthynas â recriwtio, gwariant ac allbynnau perfformio. Mae'r adolygiad yn nodi cyfleoedd i wella canlyniadau drwy ddulliau eraill o gyflenwi, gan gynnwys darparu'r cymorth sydd ar gael drwy raglen Genesis drwy raglenni cyflogadwyedd eraill.
Oherwydd hyn, gofynnais i swyddogion edrych ar y rhesymau am y tangyflawni ac i ystyried argymhelliad i gau rhaglen Genesis Cymru Wales 2 yn gynnar.
Fel rhan o'r adolygiad, mae'r opsiynau posibl eraill ar gyfer darparu'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r rhaglen Genesis wedi'u harchwilio'n fanwl a'u trafod gyda phartneriaid cyflenwi yr Awdurdod Lleol, WEFO a rhanddeiliaid pwysig eraill.
Rwyf wedi ystyried yn llawn yr argymhelliad a wnaethpwyd yn dilyn yr adolygiad ac wedi gwneud y penderfyniad i fynd ymlaen â'r broses o gau rhaglen Genesis yn gynnar o fis Gorffennaf 2013.
Rwy'n cydnabod bod rhaglen Genesis wedi helpu rhai pobl ar eu llwybr i waith. Fodd bynnag, mae'r adolygiad yn pwysleisio'n glir nad yw'r perfformiad yn cymharu'n ffafriol â rhaglenni eraill sy'n rhoi cymorth i grwpiau tebyg anodd eu cyrraedd gael gwaith.
Mae swyddogion mewn trafodaethau ar hyn o bryd â'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol ym mhob Awdurdod Lleol i ddatblygu'r opsiynau sydd ar gael i symud y rhai hynny sydd ar y rhaglen Genesis i raglenni cyflogadwyedd eraill. Fel Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, rwyf wedi canolbwyntio, ac am barhau i ganolbwyntio, ar ddod o hyd i ddulliau eraill o wella canlyniadau i gyfranogwyr.