Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Yn ôl adolygiad mewnol diweddar o Genesis Cymru 2, mae allbynnau allweddol y rhaglen, o ran recriwtio, gwariant a pherfformiad, yn dangos nad yw’n cyflawni hyd eithaf ei photensial. Mae hyn yn dilyn adolygiad cynharach o berfformiad y rhaglen, a gynhaliwyd yn 2011, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod angen ffocws mwy amlwg, wrth weithredu, ar ganlyniadau cyflogaeth a hyfforddiant penodol. Fodd bynnag, er bod Genesis wedi helpu llawer o unigolion anodd eu cyrraedd i fagu hyder er mwyn dod o hyd i swydd yn awr neu yn y dyfodol, yn sgil monitro ac adolygu perfformiad yn barhaus, mae wedi dod i’r amlwg bod y rhaglen yn parhau i dangyflawni yn erbyn ei hallbynnau allweddol.
I’r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio’n fwy trwyadl i’r rhesymau am y tangyflawni. Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt ystyried opsiynau ar gyfer gwella canlyniadau drwy ddefnyddio dulliau eraill o weithredu, gan gynnwys cyfuno’r cymorth sydd ar gael drwy’r rhaglen Genesis â rhaglenni cyflogadwyedd eraill sydd eisoes wedi cael mwy o lwyddiant. Fel rhan o’r adolygiad hwn o opsiynau eraill, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried argymhelliad ar gyfer cau’r rhaglen Genesis yn gynnar, a hynny fesul cam.
Wrth ymchwilio i’r rhesymau am y tangyflawni ac wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer dyfodol y rhaglen, bydd fy swyddogion yn cynnal trafodaethau â phartneriaid cyflenwi Genesis yn yr Awdurdodau Lleol, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, er mwyn sicrhau bod yr holl opsiynau posibl yn cael eu hystyried yn llawn. Bydd y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal dros y mis nesaf ac rwy’n disgwyl i swyddogion adrodd yn ôl imi ym mis Mawrth 2013. Byddaf yn penderfynu ar ddyfodol y rhaglen wedi imi ystyried y cyngor hwnnw.