Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Mae Llundain 2012 wedi bod yn ddigwyddiad rhagorol ac wrth i ni baratoi i groesawu’n pencampwyr Cymreig adref i Gymru heddiw, mae’n briodol i ni ystyried etifeddiaeth y digwyddiad i Gymru. Y bwriad oedd sicrhau bod Cymru’n elwa ar y Gemau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad, drwy wneud y gorau o’r effaith ar ein cenedl o safbwynt yr economi, chwaraeon a diwylliant, hybu twristiaeth a gwella enw da rhyngwladol Cymru.
Fodd bynnag, yn gyntaf hoffwn longyfarch y 68 o bobl o Gymru a fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd am eu gorchestion rhagorol. Mae gemau cartref yn 2012 wedi ysbrydoli’r athletwyr, eu hyfforddwyr, eu timau cymorth a’r cyrff llywodraethu i greu perfformiadau cwbl unigryw a bydd Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn edrych ar 2012 fel carreg filltir yn natblygiad rhagoriaeth ar y maes chwarae.
Nid oes amheuaeth bod Llundain 2012 wedi bod yn llwyddiant gwych ym maes chwaraeon. Ein cyfrifoldeb ni a’n partneriaid nawr yw manteisio ar y diddordeb sy’n codi a sicrhau bod pawb sydd wedi cael eu hysbrydoli dros yr wythnosau diwethaf yn cael y cyfle i gymryd rhan yn eu hoff gamp neu roi cynnig ar rai newydd. Gyda 30 o athletwyr o Gymru yn cymryd rhan yn Nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd a 38 yn y Gemau Paralympaidd, roedd gan Gymru lu o dalent a fydd yn ysbrydoli mwy fyth o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon – naill ai fel ffordd o gadw’n iach a heini, neu i gyrraedd y brig mewn chwaraeon ar lefel genedlaethol, neu ryngwladol hyd yn oed.
Gyda’r Gemau ond newydd orffen, mae Chwaraeon Cymru eisoes yn nodi bod cyrff llywodraethu chwaraeon Cymru yn derbyn ymholiadau newydd gan bobl sydd am ddechrau neu ailddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon, fel athletwyr, hyfforddwyr, staff cymorth neu wirfoddolwyr. I’r perwyl hwn, bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â’i Strategaeth Chwaraeon Cymunedol, gan helpu i greu cyfleoedd gwell ym maes chwaraeon a hyrwyddo chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru. Bydd ein Strategaeth Hyfforddi yn datblygu’r arweinwyr, y gwirfoddolwyr a’r hyfforddwyr sy’n hanfodol mewn chwaraeon ar bob lefel ac mae’n Strategaeth Chwaraeon Elite eisoes yn buddsoddi yn ein timau a’n hathletwyr fel bod Cymru’n parhau i fod yr un mor llwyddiannus ag ydyn ni wedi bod dros y ddau fis diwethaf.
Mae’n bwysig cofio pwysigrwydd ysgolion o ran annog ein plant i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd, o dan gadeiryddiaeth y Farwnes Grey-Thompson, a fydd yn argymell y camau y gallwn ni eu cymryd i gael pob plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed argymhellion y Grŵp maes o law.
Gan weithio ymhellach gyda phobl ifanc, lansiwyd Gemau Cymru yn 2011 fel digwyddiad aml-chwaraeon arbennig a chwbl gynhwysol, sy’n cael ei gyflwyno gan yr Urdd drwy bartneriaeth unigryw sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector. Cynhaliwyd y digwyddiad am yr ail waith yn 2012. Mae’n rhoi llwyfan i athletwyr ifanc dawnus yng Nghymru i gystadlu yn erbyn eu cyfoedion mewn amgylchedd sy’n pontio ac yn cynnal y llwybr cystadleuol tuag at gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol fel Gemau’r Gymanwlad, gan roi profiad cynnar hanfodol i athletwyr ifanc a dawnus Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i’r Urdd dros y ddwy flwyddyn ariannol nesaf i gynnal Gemau Cymru a thyfu’r digwyddiad fel rhywbeth o bwys cenedlaethol.
Bydd y Gemau Paralympaidd yn helpu i adeiladu ar y fframwaith cryf sydd gennym eisoes ar gyfer chwaraeon cymunedol i bobl anabl yng Nghymru, drwy’r gwaith gan Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cynnig dros filiwn o gyfleoedd bob blwyddyn i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon. Gall y Gemau Paralympaidd ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal ag ysbrydoli hyfforddwyr, clybiau a gwirfoddolwyr prif ffrwd i chwarae mwy o ran mewn chwaraeon i bobl anabl. Gall y Gemau helpu hefyd i newid canfyddiadau am anabledd – gan weld pa mor abl yw pobl yn hytrach na pha mor anabl.
O ran mynd â’r profiad Olympaidd i gymunedau, roedd gan Gymru fantais o fod yn un o’r cymalau cyntaf ym mhrosiect mawreddog Taith y Fflam Olympaidd, lle cludwyd y fflam i bob rhan o’r DU gan grŵp ysbrydoledig o gludwyr oedd yn cynnwys arwyr lleol o fyd chwaraeon a thu hwnt. Yng Nghymru roedd y rhain yn cynnwys y cyn athletwr Olympaidd, Colin Jackson, a’r actor o Doctor Who, Matt Smith. Amcangyfrifir i un o bob pedwar person yng Nghymru weld Taith y Fflam yng Nghymru, oedd yn ymgysylltiad cymunedol sydd bron yn ddigyffelyb, a chynhaliwyd dathliadau gyda’r nos yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.
Datblygwyd y gwaith cynllunio a chadernid oedd ynghlwm â Thaith y Fflam drwy bartneriaeth rhwng Pwyllgor Trefnu Llundain (LOCOG), Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, pob un o 22 awdurdod lleol Cymru a’r gwasanaethau brys, yma ac ochr draw’r ffin yn ardaloedd cyfagos yr heddlu yn Lloegr. Mae hyn yn cynnig ei etifeddiaeth werthfawr ei hun, gan fod angen, am y tro cyntaf ar y fath raddfa, strwythur gorchymyn a rheoli Cymru gyfan. Cafodd y strwythur ganmoliaeth gan asiantaethau cenedlaethol ar y pryd a chaiff ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau mawr Cymru gyfan.
Mae rôl Cymru fel cartref cyfleusterau hyfforddi o’r safon uchaf cyn y Gemau ar gyfer timau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012 hefyd yn cynnig etifeddiaeth unigryw. Cynhaliwyd 24 gwersyll hyfforddi cenedlaethol gwahanol yng Nghymru, gyda bron 850 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth. Roedd hyn yn cyfrannu’n sylweddol yn economaidd at yr ardaloedd lle roedd y gwahanol dimau’n aros. Yn arbennig, roedd y rhaglen hon yn targedu’r gwledydd a fydd yn dychwelyd i’r DU ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2014, fel Awstralia a Seland Newydd, a bydd swyddogion yn parhau i ddatblygu cysylltiadau pellach â’r gwledydd hyn gyda’r bwriad o fod yn llwyddiannus eto ymhen dwy flynedd.
Yn y cyfamser, cymerodd ysgolion Cymru ran lawn yn rhaglen addysg Llundain 2012, Bydd Barod, gyda 1255 o sefydliadau addysgu Cymru yn cofrestru gyda’r cynllun. Drwy hyn cafodd yr ysgolion borth adnoddau a gwybodaeth addysg trawsgwricwlaidd helaeth a ddefnyddiwyd i helpu athrawon i gyflwyno themâu Olympaidd yn y cwricwlwm a hyrwyddo gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn eu hysgolion. Drwy Bydd Barod, cafodd plant ysgol a myfyrwyr dethol o Gymru y cyfle i gludo’r Fflam Olympaidd, cael eu penodi’n Genhadon Ifanc yn eu hysgolion ar gyfer Llundain 2012, cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Host a Nation’, gan eu rhoi mewn cysylltiad â gwledydd eraill oedd yn cystadlu ac ennill tocynnau gwerthfawr i’r myfyrwyr gael gweld y Gemau.
Rhan unigryw o Lundain 2012 oedd y rhaglen Ysbrydoli, a gynlluniwyd i ymgysylltu â chymunedau ym mhob cwr o’r wlad drwy Olympiad Llundain 2012. Gyda mwy na 100 o brosiectau yn ennill nod clodfawr Ysbrydoli, Cymru oedd un o’r cenhedloedd a gymerodd fwyaf o ran yn y DU. Derbyniodd y prosiectau gyllid o fwy na £2m a chymerodd dros 100,000 o bobl ran mewn prosiectau oedd yn amrywio o ‘Phoenix’, sef rhaglen gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai pobl ifanc yn yr ardal, i ‘Go Tri’, sef rhaglen yn Sir Benfro sy’n cynnig gweithgareddau triathlon i blant abl ac anabl.
Ar ben hyn, dangosodd awydd y Cymry i ymateb i’r gwahoddiad i fod yn 'Hyrwyddwyr y Gemau' a gwirfoddoli i helpu i gynnal y digwyddiadau, naill ai yn Llundain neu yma yng Nghaerdydd, frwdfrydedd y genedl ar gyfer y Gemau, gan roi lliw Cymreig i’r gwirfoddolwr yn Llundain a rhoi profiad gwaith gwerthfawr i’r holl wirfoddolwyr o Gymru, llawer ohonyn oedd yn ifanc, a sgiliau i’w trosglwyddo i fywyd gwaith prif ffrwd.
O ran sicrhau manteision i fusnes o’r Gemau, efallai mai’r contract uchaf ei broffil oedd i fathu’r holl fedalau, sef cyfrifoldeb y Bathdy Brenhinol, Llantrisant. Yn ogystal, roedd incwm o’r 11 o gemau pêl-droed Olympaidd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, dinas Olympaidd Cymru, gyda thorf o bron 350,000 yn heidio i Stadiwm y Mileniwm – gyda’r mwyafrif o’r tu allan i Gymru; cymerodd Llywodraeth Cymru ran yn y broses i sicrhau cyfleoedd busnes uniongyrchol o’r paratoadau ar gyfer y Gemau cyn gynted â phosibl. Gan weithio gyda phartneriaid ac yn uniongyrchol gyda busnesau, buom yn annog cwmnïau i gofrestru ar gyfer contractau Olympaidd a chyfleodd busnes tebyg ar gyfer y digwyddiad. Yn sgil y broses hon, enillodd 69 o fusnesau Cymreig gontractau cysylltiedig â’r Gemau Olympaidd, gan ennill profiad gwerthfawr a chontractau busnes newydd i helpu gyda gwaith posibl yn y dyfodol. Yn sgil y gemau pêl-droed, gwelwyd Caerdydd ar lwyfan byd eang fel dinas Olympaidd ryngwladol, gyda’r cylchoedd Olympaidd y tu allan i Neuadd y Ddinas yn ganolbwynt i statws Olympaidd y rhanbarth. Manteisiwyd yn briodol ar y cyfleoedd busnes yn sgil y gemau eu hunain, a chroesawais gysylltiadau busnes allweddol mewn blwch yn y stadiwm yng ngêm gogynderfynol y dynion er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd oedd yn codi yn sgil achlysur o’r fath.
Gwnaethpwyd ymrwymiad cynnar i sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan lawn yn y rhaglen fusnes Olympaidd a ddatblygwyd gan bartneriaid, Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI). Gan sefydlu Lancaster House, lleoliad uchel ei broffil yng Nghanol Llundain fel ‘Llysgenhadaeth Busnes Prydain, lluniodd UKTI amserlen lawn o ddigwyddiadau ymgysylltu busnes i sicrhau bod buddiannau busnes y DU yn gallu cwrdd â chwmnïau byd eang oedd yn ymweld â Llundain, efallai am y tro cyntaf o ganlyniad uniongyrchol i’r Gemau. O ganlyniad, cafodd Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru eu cynrychioli yn y Gynhadledd Buddsoddi Byd Eang, a gynhaliwyd yn Lancaster House ar drothwy’r Gemau, ac yn y gyfres lawn o Uwchgynadleddau Sector Byd Eang. Cydlynwyd y gynrychiolaeth drwy banelau sector Llywodraeth Cymru, a llwyddodd hyd yn oed mwy o fusnesau i gymryd rhan drwy ddosbarthu fideo ar-lein a chynlluniau am ddigwyddiadau sector Cymreig dilynol, gyda rhywfaint o’r deunydd gorau o’r uwchgynadleddau.
Pwysleisiwyd ‘ôl-troed’ Cymru ar arlwy busnes y DU ymhellach yn ystod y Gemau Olympaidd drwy dargedu ymgyrch hysbysebu’n ofalus i roi sylw i’r rhaglen Ardaloedd Menter sydd newydd ei lansio yng Nghymru. Gan fanteisio ar safleoedd y Tiwb ger Lancaster House a lleoliadau chwaraeon allweddol, cyflwynwyd negeseuon busnes Cymreig i gynulleidfaoedd allweddol oedd yn ymweld â chanol a dwyrain Llundain adeg y Gemau. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i wneud defnydd darbodus o’r swyddfa sydd newydd ei hagor yn Llundain, a lansiwyd gerbron cynulleidfa fusnes cyn y Gemau, i geisio ymgysylltu’n llwyddiannus â thargedau allweddol, sy’n aml yn anodd eu cyrraedd, yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.
Mae gan Gymru enw da eisoes fel lleoliad prosiectau celfyddydau arloesol o ansawdd uchel, a rhoddwyd hwb pellach i’r enw da drwy ymateb trawiadol y genedl i’r gwahoddiad i gymryd rhan yn nathliad diwylliannol Llundain 2012, yr Olympiad Diwylliannol. Drwy ddefnyddio rhaglenni cyfredol, fel Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â chomisiynu gwaith newydd a blaengar a gweithio gyda’r partner allweddol, sef Cyngor Celfyddydau Cymru, llwyddodd Olympiad Diwylliannol Cymru i arddangos rhaglenni fel Grym y Fflam – casgliad o 5 prosiect gwahanol a ddenodd bron 175,000 o ymwelwyr rhwng mis Mehefin 2011 a mis Awst 2012.
Aeth y rhaglen o flwyddyn â gŵyl o brosiectau celfyddydau un lleoliad a theithiol i bob cwr o Gymru, gan arddangos rhagoriaeth Cymru o ran cefnogi ac annog prosiectau’r celfyddydau i bobl anabl, gan ddod â chynulleidfaoedd amrywiol a helaeth i weld y gweithiau cyffrous hyn. Wrth wylio perfformiad gan Only Kids Aloud a’r dawnsiwr anabl dawnus David Toole a’u tebyg, roedd yn bleser nodi bod perfformwyr o Gymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y seremoni agoriadol a’r diweddglo yn y Stadiwm Olympaidd a rhaglen yr Olympiad Diwylliannol, gan godi proffil celfyddydau Cymru i gynulleidfa fyd-eang.
Bwriad gwaith Croeso Cymru yn ystod y Gemau Olympaidd a chyn hynny oedd sicrhau bod diwydiant twristiaeth Cymru yn elwa gymaint â phosibl yn sgil Llundain 2012, ac y byddai’r Gemau yn cyflwyno cynulleidfaoedd teithio newydd a dylanwadol i Gymru. Gan weithio’n agos gyda’r partner strategol Visit Britain, cymerodd Croeso Cymru ran yn ymgyrch Visit Britain “Great Britain – You’re Invited”, gan sicrhau bod delweddau o Gymru’n cael eu cynnwys yn neunydd yr ymgyrch, bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n glir yn y ganolfan cyfryngau heb achrediad yng nghanol Llundain a bod cyfle i newyddiadurwyr o wledydd eraill ymweld â Chymru yn ystod eu taith i’r DU. Wrth hyrwyddo Cymru, pwysleisiwyd dwy elfen newydd yn arbennig – Llwybr Arfordir Cymru, a gyflwynwyd i newyddiadurwyr yn Llundain yn ystod y Gemau, a’r paratoadau i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014.
Y bwriad oedd hysbysu newyddiadurwyr ac ymwelwyr preifat fel ei gilydd am atyniadau ychwanegol Cymru yn ystod taith i’r DU, a chyflwyno Cymru fel dewis i’r rheini oedd am dreulio amser y tu allan i Lundain dros yr haf. Ar ben hyn, drwy gysylltu ymgyrchoedd â themâu Olympaidd, hyrwyddwyd cyfleusterau chwaraeon a hamdden unigryw Cymru a’i henw da fel cyrchfan o safon fyd-eang. Ar ôl casglu delweddau a deunydd ffilm gwerthfawr o lawer o’r digwyddiadau Olympaidd a gynhaliwyd yng Nghymru, gan gynnwys Taith y Fflam, paratoadau ar gyfer y gemau pêl-droed Olympaidd a’r gwersylloedd hyfforddi, adlewyrchwyd themâu Olympaidd yn ymgyrchoedd marchnata traddodiadol, digidol ac ar-lein Croeso Cymru.
Mae canlyniadau penodol yr holl ffrydiau gwaith hyn yn amlwg yn cael eu casglu o hyd, ac yn achos rhai bydd effaith Llundain 2012 ar Gymru i’w gweld yn yr hirdymor yn hytrach nag yn y tymor byr. Fodd bynnag, mae’n amlwg i bawb a fu’n rhyfeddu at berfformiadau Cymreig yn y Seremoni Agoriadol, a glywodd am athletwyr yn y Pentref Olympaidd yn bwyta ac yn yfed cynnyrch o Gymru, a welodd hysbysebion gan fusnesau Cymreig ar rwydwaith tanddaearol Llundain, a groesawodd newyddiadurwyr tramor i rai o atyniadau ymwelwyr Cymru, a gymerodd ran mewn un o’r amryw ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru fel rhan o’r Olympiad Diwylliannol ond a fu, yn fwy na dim, yn dathlu perfformiadau anhygoel athletwyr Cymru, fod Cymru wedi chwarae rhan lawn a hanfodol yn llwyddiant Llundain 2012. Drwy wneud hynny, rydyn ni wedi dangos unwaith eto y gallwn gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr i’r safon uchaf, ac y byddwn o ganlyniad yn gweld etifeddiaeth hirdymor a chynaliadwy ym meysydd chwaraeon, diwylliant a’r economi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.