Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 11 Tachwedd, gwnaeth Chris Grayling AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin yn nodi y gallai galwadau ffôn rhwng carcharorion a’u Haelodau Seneddol etholaeth, neu eu swyddfeydd, fod wedi cael eu recordio, ac mewn rhai achosion bod staff y carchar wedi gwrando ar y galwadau hyn (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae’r mater hwn yn mynd yn ôl i 2006, ac mae’n ymwneud yn bennaf â’r cyfnod cyn hydref 2012.

Mae Mr Grayling wedi ymddiheuro am hyn, gan gyfeirio at hyn fel mater difrifol. Mae’r rheolau a’r polisi carchardai yn nodi’n glir bod yn rhaid trin cyfathrebu rhwng carcharorion ac Aelodau Anrhydeddus yn gyfrinachol mewn achosion lle mae’r carcharor yn un o’u hetholwyr. Mewn nifer fechan o achosion, ni restrodd y carcharor y rhif fel un cyfrinachol ac felly ni chymerwyd camau i atal recordio; ond mewn achosion eraill roedd y rhifau wedi cael eu rhestru fel rhai cyfrinachol.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion holi a yw’r mater hwn yn effeithio ar Aelodau Cynulliad hefyd. Ers hynny, cefais fy hysbysu y gallai hyn fod wedi effeithio hefyd ar gyfathrebiadau gydag Aelodau Cynulliad. Mae’r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous AS, yn ysgrifennu at holl Aelodau’r Cynulliad yn cadarnhau hyn, ac mae swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio i nodi manylion yr Aelodau yr effeithiwyd arnynt.

Gofynnwyd i Nick Hardwick, Prif Arolygydd Carchardai Ei Mawrhydi, gynnal ymchwiliad annibynnol, yn gyntaf i roi sicrwydd i’r Ysgrifennydd Gwladol erbyn diwedd y mis bod y trefniadau diogelu angenrheidiol ar waith, ac yn ail rhoi adroddiad llawn erbyn dechrau 2015 ar y ffeithiau a gwneud argymhellion pellach. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau y bydd Aelodau Cynulliad yn cyfrannu at yr ymchwiliad hwn.

Byddaf yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ar unrhyw ddatblygiadau.