Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ofgem alwad am fewnbwn ar daliadau sefydlog, sef elfennau sefydlog biliau ynni cwsmeriaid. Rydym wedi galw'n rheolaidd ac yn gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i ddiwygio taliadau sefydlog. Mae'r taliadau'n sylfaenol annheg i gwsmeriaid incwm isel a defnydd isel, ac mae'r loteri cod post o daliadau yn golygu bod cwsmeriaid yng Ngogledd Cymru yn talu'r taliadau sefydlog uchaf ym Mhrydain Fawr.
Gallwch ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad yn: Galwad Ofgem am fewnbwn ar daliadau sefydlog: ymateb Llywodraeth Cymru.
Yn ein hymateb, rydym wedi pwysleisio'r angen brys am adolygiad mwy cyfannol o daliadau
manwerthu i gynnwys diddymu taliadau sefydlog, cyflwyno tariff cymdeithasol a/neu dariff meddygol ac ailgydbwyso costau nwy a thrydan. Rydym yn credu, trwy gymryd agwedd fwy cyflawn, fod cyfle gwirioneddol i osod llwybr tuag at bontio teg ac amgylchedd sy'n fwy cefnogol o fuddsoddiad defnyddwyr mewn technolegau carbon isel. O ystyried y cymhlethdod a'r amserlenni posibl sy'n gysylltiedig â diwygio ar raddfa eang, cam cyntaf da fyddai cydraddoli taliadau sefydlog ar draws gwledydd Prydain.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r mater hwn ar bob lefel, gan weithio tuag at Gymru decach, gryfach, wyrddach.