Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 2 Hydref 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y drefn briodol ar y pecyn buddsoddi arfaethedig ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. 

Rydym wedi rhoi ystyriaeth i asesiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac wedi mireinio manylion technegol y rhaglen ddeng mlynedd. Byddwn nawr yn symud ymlaen at fuddsoddiad cyntaf o £20 miliwn.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dwf y seilwaith economaidd hanfodol hwn, sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu dros £200m mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GYC) bob blwyddyn ac yn cefnogi miloedd o swyddi yn rhanbarth De Cymru. Fel yr amlinellwyd yn natganiad ysgrifenedig Gorffennaf 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pryd, nod y buddsoddiad yw tyfu'r economi leol ymhellach drwy wireddu potensial llawn presenoldeb Maes Awyr Caerdydd yng Nghymru. Bydd y cyllid yn datblygu gweithgarwch economaidd ychwanegol er budd rhanbarth De Cymru a thu hwnt, fel rhan o economi genedlaethol allblyg, bywiog a deniadol.  Gall datblygiadau gynnwys cyfleusterau ar gyfer cynnal a chadw awyrennau, trin cargo a hedfanaeth cyffredinol. Bydd peth o'r buddsoddiad yn mynd tuag at archwilio cyfleoedd newydd fel llwybrau awyr posibl.

Bydd fy swyddogion yn monitro perfformiad economaidd y buddsoddiad a byddant yn sicrhau bod y cymhorthdal yn cael ei gadw i'r lleiafswm i gyflawni'r prosiect. Ymrwymaf i ddiweddaru'r Senedd ar adegau priodol yn ystod y rhaglen ddeng mlynedd.

Bydd crynodeb o ddyfarniad Llywodraeth Cymru yn cael ei lanlwytho cyn bo hir i gronfa ddata tryloywder cymorthdaliadau’r DU (Saesneg yn Unig).