Jeremy Miles, Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gofynion cynllunio'r TGAU newydd, i'w haddysgu am y tro cyntaf o 2025. Mae hyn yn ganlyniad i ymgysylltu helaeth â'r sector dros y tair blynedd diwethaf, ac yn cynrychioli cam nesaf bwysig yn eu rhaglen ddiwygio Cymwys ar gyfer y Dyfodol ac wrth gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r cyhoeddiad yn rhoi sicrwydd i ymarferwyr, dysgwyr a rhieni fel ei gilydd, ar y cymwysterau TGAU a fydd ar gael o 2025 o dan y Cwricwlwm i Gymru. Dylai dysgwyr a rhieni, yn benodol, deimlo’n hyderus y bydd y TGAU newydd hyn yn cadw’r un gwerth â'u rhagflaenwyr. Byddant yn parhau i fod yn gludadwy, fel bod cyflawniadau dysgwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg a'u bod yn gallu defnyddio'r cymwysterau hyn i symud ymlaen ymhellach mewn addysg neu gyflogaeth, lle bynnag y maent yn dewis gwneud hynny: mae hyn bob amser wedi bod yn nod allweddol ar gyfer diwygiadau Cymwysterau Cymru. Ar gyfer meysydd fel gwyddoniaeth, dylai dysgwyr a rhieni deimlo'n dawel eu meddwl y bydd y mwyafrif sylweddol o ddysgwyr yng Nghymru dal yn dilyn yr un llwybr i ddyfarniad dwbl a fydd yn darparu sylfaen gref ar gyfer gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth. Yn yr un modd â'r TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Sengl) gyfredol (a fydd yn dod i ben), bwriad y dyfarniad sengl newydd yw darparu mynediad i gyfran fach iawn o ddysgwyr na fyddant efallai'n gallu gwneud y dyfarniad dwbl. Y cam nesaf yw gwaith CBAC, y maent wedi ymrwymo i'w gyflawni mewn ffordd ymgysylltiedig a thryloyw, wrth iddynt ddatblygu cymwysterau sy'n adlewyrchu disgwyliadau'r cwricwlwm newydd.
Yn ystod Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11, bydd cymwysterau yn rhan bwysig o ddysgu, ond ni fyddant yn cynnwys popeth y bydd dysgwyr yn ei ennill o brofi'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn cynnwys elfennau gorfodol o'r cwricwlwm, megis Gyrfaoedd a Phrofiadau sy'n Gysylltiedig â Gwaith, a chymryd rhan mewn ystod o brofiadau a dysgu eraill. Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad diweddar Cymwysterau Cymru ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16, bydd dysgwyr hefyd yn gallu dilyn cyfres o gymwysterau sy'n seiliedig ar sgiliau, gan gynnwys prosiect sgiliau cyfannol, yn ogystal â chymwysterau sylfaen a chyn-alwedigaethol. Bydd y cyfleoedd hyn yn golygu y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn dod yn fwy cymwys a pharod ar gyfer ystod o wahanol lwybrau ôl-16, gan gynnwys addysg alwedigaethol neu gyffredinol, cyflogaeth neu hyfforddiant. Bydd hyn yn llywio fy syniadau ar sut i addasu cwmpas a ffocws Bagloriaeth Cymru yn y dyfodol.
Mae ysgolion eisoes yn darparu llawer o'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau hyn, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi hyn yn llawn. Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr addysg bellach, ysgolion, sefydliadau addysg uwch ac, yn bwysig, ymarferwyr, i ddatblygu canllawiau penodol ar y gofynion ar gyfer cynnig ysgolion i ddysgwyr 14-16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau at ddibenion ymgynghori yn ystod tymor yr hydref ac yn eu cwblhau cyn mis Medi y flwyddyn nesaf, fel bod y canllawiau ar gael i gefnogi gwaith cynllunio ysgolion ar gyfer y cymwysterau newydd drwy gydol blwyddyn academaidd 2024/25.
Bydd y rôl y mae ysgolion yn ei chwarae o ran cefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol, a’u helpu i bontio llwyddiannus i addysg bellach neu i gyflogaeth, yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth ac i gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gweithgar a chyfrifol o Gymru. Rwyf felly wedi gofyn i'm swyddogion ddatblygu cynigion ar gyfer Portffolio Dysgwr, sy’n offeryn a allai gefnogi cynnydd dysgwyr o dan y Cwricwlwm i Gymru yn 14-16 ac, yn hollbwysig, llwybrau unigol dysgwyr. Byddai Portffolio Dysgwr yn darparu llwyfan digidol i gefnogi hunanfyfyrio a gwerthuso dysgwyr, a gallai ei gwblhau ddod yn rhan bwysig o ymgysylltiad dysgwyr â’u taith. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn archwilio sut y gallai dysgwyr ddefnyddio Portffolio Dysgwr i nodi eu cryfderau a'u diddordebau, myfyrio ar eu cynnydd a'u cyflawniadau, gosod nodau ar gyfer y dyfodol a chynllunio ar gyfer eu camau nesaf. Bydd cynigion ar gyfer Portffolio Dysgwr yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad yn yr hydref, gydag asesiad llawn o'u heffaith bosibl ar lwyth gwaith athrawon.
Nid yw gwaith sydd ar y gweill i gefnogi ysgolion i wireddu'r cwricwlwm yng nghyd-destun cymwysterau diwygiedig yn digwydd ar ei ben ei hun. Bydd ein disgwyliadau yn y canllawiau yn llywio ein cynigion ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y sylfaen wybodaeth newydd i ysgolion. Mae'r gwaith hefyd yn ystyried y diwygiadau ehangach i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i wneud y dewisiadau cywir fel eu bod yn gallu ffynnu. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag ymarferwyr dros y misoedd nesaf a thu hwnt i adeiladu system addysg sy'n cefnogi pawb yng Nghymru i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sy'n berthnasol i'w bywydau heddiw ac yn y dyfodol.