Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o rannu gyda'r Aelodau gopi o adroddiad ar gadernid y gwasanaethau iechyd a gofal dros gyfnod y gaeaf 2016/17 sy'n gwneud argymhellion allweddol ar gyfer misoedd y gaeaf sydd i ddod.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn bresennol yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 fel rhan o'i ymchwiliad i’r Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf, ac ymrwymais y byddwn yn cynnal adolygiad o gadernid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros gyfnod y gaeaf 2016/17.

Wedi hynny, cymeradwyodd y Bwrdd Cenedlaethol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu werthusiad amlasiantaethol ac rwy'n falch o gyhoeddi, gan fod y gwerthusiad hwnnw bellach wedi'i gwblhau, fod yr adroddiad wedi cael ei gyhoedd.

Roedd hwn yn gyfle i fabwysiadu dull system gyfan o gefnogi ein sefydliadau i werthuso i ba raddau yr oedd eu cynlluniau integredig yn cyflawni ar gyfer cleifion mewn ymateb i'r galwadau a roddwyd arnynt yn ystod cyfnod y gaeaf 2016/17.  Yr hyn sy’n bwysig yw bod hwn yn gyfle i rannu'r gwersi a ddysgwyd ac i lywio gwaith cynllunio yn y dyfodol drwy gydweithio’n drefnus. Rwy'n arbennig o falch bod yr adroddiad hwn yn ystyried barn clinigwyr, staff iechyd a gofal, cyrff proffesiynol, arweinwyr systemau, cleifion a grwpiau'r trydydd sector. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i weithredu ar yr argymhellion hyn.

Hoffwn dalu teyrnged i staff cydwybodol y rheng flaen – y meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, parafeddygon, Meddygon Teulu (y tu i mewn ac y tu allan i oriau), therapyddion, deintyddion, staff ambiwlans a staff allweddol eraill, gan gynnwys y rheini yn y trydydd sector. Maen nhw oll yn parhau i chwarae rôl hanfodol i ddarparu ymateb proffesiynol, gan sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl, ar adegau anodd iawn.  

Byddaf yn gwneud datganiad pellach ynglŷn â'r paratoadau ar gyfer y gaeaf sydd i ddod ym mis Hydref.