Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Ar ben-blwydd cyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, rwy'n falch o amlinellu'r camau nesaf wrth i ni barhau i weithio tuag at ffyrdd mwy diogel. Mae prif nod y polisi hwn yn glir: achub bywydau a lleihau anafiadau. Mae'r arwyddion cynnar yn galonogol, gyda gostyngiad mewn cyflymderau a llai o wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn 20mya.
Yn gynharach eleni, cyhoeddais gynllun tri cham ar gyfer 20mya, a oedd yn cynnwys Rhaglen Wrando Genedlaethol. Dros yr haf, fe wnaethom annog pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i rannu eu barn, yn enwedig ar ba ffyrdd ddylai gadw'r terfyn 20mya a pha ffyrdd allai ddychwelyd i 30mya. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i roi adborth. Mae'r cyfraniad hwn wedi bod yn hanfodol wrth lunio'r camau nesaf.
Rydym wedi cwblhau dau gam cyntaf ein cynllun:
- Rhaglen Wrando: Gwnaethom ymgysylltu ag ystod amrywiol o leisiau, gan gynnwys cefnogwyr a beirniaid y polisi, i gasglu adborth ar ble y dylid defnyddio'r terfyn 20mya.
- Partneriaethau gydag Awdurdodau Priffyrdd: Trwy gyfres o weithdai rhanbarthol, buom yn gweithio mewn partneriaeth â swyddogion llywodraeth leol i greu canllawiau diwygiedig ar y cyd, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt weithredu eithriadau i 20mya lle mae'n ddiogel ac yn rhesymol i wneud hynny. Bydd y fframwaith gwneud penderfyniadau newydd hwn hefyd yn cefnogi defnydd mwy cyson o 20mya ledled Cymru.
Rydym bellach wedi dechrau ar y trydydd cam:
- Gwneud newidiadau ar lawr gwlad: Mae awdurdodau priffyrdd bellach yn adolygu'r adborth a dderbyniwyd i sicrhau bod 20mya yn cael ei ddefnyddio ar y ffyrdd cywir—lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Rwy'n falch o weld bod rhai cynghorau'n dechrau cyhoeddi eu camau nesaf mewn ymateb i adborth y cyhoedd a'r asesiadau y byddant yn eu cynnal yn unol â chanllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru. Mwy i ddod dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Unwaith y bydd yr adolygiad hwn wedi'i gwblhau, os bydd awdurdodau priffyrdd yn penderfynu addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd penodol, byddant yn dechrau'r broses o wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig statudol (TROs), gan roi cyfle arall i ymgysylltu â'r cyhoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'n parhau i fod yn dryloyw a bod cymunedau'n parhau i fod yn rhan o'r dewisiadau lleol hyn ar bob cam.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i'n partneriaid llywodraeth leol am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Fodd bynnag, gwyddom fod mwy i'w wneud. Bydd cyflymder y cynnydd yn amrywio mewn gwahanol feysydd, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol a faint o adborth a gafwyd. Rwy'n hyderus, drwy weithio gyda'n gilydd, y byddwn yn sicrhau bod y cyflymderau cywir wedi'u gosod ar y ffyrdd cywir, gan helpu i wneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel i bawb tra'n cadw'r economi i symud a chymunedau'n gysylltiedig.