Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Mae ein hinsawdd yn newid. Yn y blynyddoedd i ddod byddwn yn cael hafau poethach a sychach a gaeafau cynhesach a gwlypach. Mae rhagolygon yn awgrymu y byddwn yn gweld cynnydd yn lefelau’r môr, glawiad dwysach a llifogydd amlach.
Bydd mwy ohonom yn gweld llifogydd, bydd canlyniadau’r llifogydd hynny’n fwy a bydd y risgiau i fywyd, yr economi a’r amgylchedd yn cynyddu.
Tynnwyd sylw at y perygl cynyddol o lifogydd o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd yn 2004 drwy gyhoeddi’r astudiaeth Foresight Future Flooding.
Ar sail y dystiolaeth am risgiau cynyddol a ddangoswyd yn yr adroddiad hwn ac eraill dechreuodd Llywodraeth y Cynulliad newid ei dull o weithredu ynghylch llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan symud oddi wrth ddull a oedd yn ymwneud ag amddiffyn yn bennaf tuag at un sydd wedi’i seilio ar egwyddorion rheoli risg.
Roedd y newid hwn yn y dull o weithredu’n rhywbeth yr oeddwn yn gobeithio gweld ei adlewyrchu yng nghamau gweithredu ein partneriaid, ac yn 2007 lansiais y Rhaglen Dulliau Newydd i hwyluso’r newid hwn.
Cafwyd nifer o lwyddiannau cynnar drwy’r rhaglen, ac roeddwn yn falch o weld ein partneriaid yn symud ymlaen yn gyflym â’r dull o reoli risg. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl lansio’r Rhaglen Dulliau Newydd, cafodd Cymru a Lloegr rai o’r llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth; mae’r rhain yn cael eu hadnabod yn gyffredinol bellach fel llifogydd haf 2007.
Amlygodd y llifogydd hynny’r risgiau y mae Cymru’n eu hwynebu a’r materion yr oedd angen i ni ddelio â nhw.
Croesewais benderfyniad Llywodraeth y DU i gomisiynu adolygiad o’r llifogydd a’r ymateb iddynt gan Syr Michael Pitt. Roeddwn o’r farn bod llawer o’r argymhellion yr un mor briodol i Gymru ac ymrwymais i’w gweithredu.
Ym Mehefin 2008 cefais gyfarfod â Syr Michael Pitt lle y gwnaethom drafod ei adroddiad ef yn ogystal â’r dull o weithredu a ddefnyddir mewn cysylltiad â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ar ôl y cyfarfod hwnnw rhoddais wybod i Aelodau’r Cynulliad fod Syr Michael o’r farn bod y dull o weithredu sy’n cael ei fabwysiadu yng Nghymru’n adlewyrchu’r argymhellion yn ei adroddiad.
Ers hynny rydym wedi cyflawni newid sylweddol yn y sector.
Rydym wedi diweddaru’r ddeddfwriaeth sy’n sail i waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, drwy wneud Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a throsi Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE drwy Reoliadau Risg Llifogydd 2009.
Rydym wedi ymgynghori ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Strategaeth Genedlaethol i Gymru.
Rydym wedi adolygu a diweddaru ein trefniadau ar gyfer ymateb mewn argyfwng a chydnerthu ac wedi rhoi prawf arnynt gyda’n partneriaid allweddol fel rhan o’r digwyddiad cenedlaethol, Ymarfer Watermark.
Rydym wedi treblu’r buddsoddiad mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gyflenwi cynlluniau amddiffyn ledled y wlad sy’n gwella ansawdd bywyd cymunedau ac unigolion.
Rydym wedi sicrhau mwy na £50 miliwn o Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer prosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
Mae’r rhain yn gyflawniadau o bwys ac yn rhoi Cymru mewn lle cryf wrth symud ymlaen.
Newidiadau mewn Deddfwriaeth
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gyflawniad o bwys. Mae’r newidiadau sydd ynddi’n rhoi i Weinidogion Cymru ac i’r awdurdodau rheoli risg yng Nghymru y pŵer y mae ei angen i sicrhau ein bod yn ymateb mewn modd cyfannol i’r heriau sy’n codi oherwydd llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn egluro rolau a chyfrifoldebau’r rheini sy’n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae’n rhoi arolygiaeth strategol i Asiantaeth yr Amgylchedd dros yr holl risgiau llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac yn rhoi rôl ehangach iddi wrth gynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae cynnwys erydu arfordirol yn ei chylch gwaith yn neilltuol o bwysig, gan fod hyn yn cydnabod y berthynas sydd rhwng erydu arfordirol a llifogydd arfordirol.
Yn ogystal â hyn, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain ar risgiau llifogydd o’r prif afonydd a’r môr, a bydd awdurdodau lleol yn arwain ar risgiau llifogydd lleol, fel llifogydd o afonydd llai, dŵr daear a dŵr wyneb. Mae ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth yn dal yn gyfrifol am risgiau llifogydd o garthffosydd ac mae Byrddau Draenio Mewnol yn dal i gyflawni eu rôl mewn cysylltiad â draenio tir.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rheoli risg gydweithio wrth ddelio â risgiau llifogydd ac erydu arfordirol ac yn rhoi mwy o bwerau iddynt i ofyn am wybodaeth a’i rhannu. Bydd hyn yn amhrisiadwy o ran cael y wybodaeth y mae ar awdurdodau rheoli risg ei hangen i gael dealltwriaeth ddigonol o’r risgiau yn eu hardal a chynllunio ar eu cyfer.
Un o’r pethau yr wyf yn fwyaf balch o fod wedi’i gyflawni yn ystod y pedair blynedd diwethaf yw rhoi datblygu cynaliadwy ar ganol gwaith llywodraeth yng Nghymru a’i wneud yn brif egwyddor drefniadol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rwyf yn falch iawn bod Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn cynnwys gofyniad penodol am y tro cyntaf i awdurdodau rheoli risg gyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy.
Bydd yn fwyfwy pwysig mabwysiadu dulliau cynaliadwy, fel y defnydd o systemau draenio cynaliadwy, wrth i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd gynyddu yn y dyfodol ac mae’n bwysig bod y sector rheoli perygl llifogydd yn chwarae ei ran yn llawn.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau rheoli risg gydweithio wrth ddelio â risgiau llifogydd ac erydu arfordirol ac yn rhoi mwy o bwerau iddynt i ofyn am wybodaeth a’i rhannu. Bydd hyn yn amhrisiadwy o ran cael y wybodaeth y mae ar awdurdodau rheoli risg ei hangen i gael dealltwriaeth ddigonol o’r risgiau yn eu hardal a chynllunio ar eu cyfer.
Mae hyn wedi’i ategu gan y gwaith i gyflawni gofynion Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE, a fydd yn arwain at lunio asesiadau rhagarweiniol o berygl llifogydd gan yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a phennu ardaloedd lle y ceir perygl neilltuol o lifogydd lle y byddwn yn gwneud mwy o waith i fapio’r risgiau.
Ar gyfer yr ardaloedd hynny, mae’r Gyfarwyddeb hefyd yn gofyn am baratoi cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Bydd y rhain yn ychwanegu eto at y ddealltwriaeth o’r risgiau a’r camau gweithredu sy’n ofynnol i reoli’r risgiau hynny ar ben yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’n Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd a Chynlluniau Rheoli Traethlin.
Mae’r Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd a Chynlluniau Rheoli Traethlin yn nodi polisïau lleol cynaliadwy a fydd yn pennu sut yr ydym yn bwriadu rheoli risgiau dros y tymor hir. Cyhoeddwyd Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd yn 2009 a bydd Cynlluniau Rheoli Traethlin ar gael yn ddiweddarach eleni.
Maent wedi’u hategu ymhellach gan y Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb newydd a gynhyrchwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2010 sy’n dangos effeithiau llifogydd dŵr wyneb ledled Cymru a Lloegr.
Wrth gynhyrchu’r map hwn, gwnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ddefnydd o’r data ar lifogydd dŵr wyneb a gasglwyd gan y Grŵp Rheoli Dŵr Wyneb Integredig a sefydlwyd gennyf, sydd wedi cyfuno arbenigedd o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a Dŵr Cymru er mwyn ystyried y risgiau cynyddol o lifogydd dŵr wyneb ledled Cymru.
Cydweithiodd y Grŵp i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a risgiau ledled Cymru, gan eu casglu ar ffurf cofnod cynhwysfawr o’r holl ddigwyddiadau llifogydd dŵr wyneb ledled Cymru. Mae hyn yn rhagflaenu’r gwaith a wnaethpwyd ar Fapio Dŵr Wyneb yn Lloegr ac yn rhoi ffynhonnell wybodaeth bellach ar gyfer asesiadau rhagarweiniol o berygl llifogydd.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru’n gweithio ar eu hasesiadau rhagarweiniol o berygl llifogydd yn awr.
Rwyf yn disgwyl i’r ardaloedd hynny sydd y tu allan i gwmpas y diffiniadau yng Nghyfarwyddeb Llifogydd yr UE gael eu trafod mewn strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol.
Strategaethau Cenedlaethol a Lleol
Ym mis Gorffennaf y llynedd cyhoeddais fy ymgynghoriad ar ddatblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a lansiwyd tua phedwar mis cyn yr ymgynghoriad cyfatebol yn Lloegr.
Cafwyd croeso i’r ymgynghoriad a nifer o sylwadau cadarnhaol am dôn ac amseriad y ddogfen, a chefnogaeth i’r pedair egwyddor gyffredinol a nodwyd yn yr ymgynghoriad, sef:
· Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau a busnesau;
· Codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol a’u cynnwys yn yr ymateb i’r cyfryw berygl;
· Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd a digwyddiadau erydu arfordirol;
· Blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sydd fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd ac erydu arfordirol.
Ein bwriad yw sefydlu’r egwyddorion hyn yn y Strategaeth Genedlaethol ei hun a bydd y Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad, ac Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad ddiwedd Mawrth.
Bydd y Strategaeth Genedlaethol yn sefydlu fframwaith ar gyfer datblygu system gyfannol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru; system sy’n cwmpasu camau gweithredu’r awdurdodau rheoli risg yn ogystal â chamau gweithredu gan unigolion a chymunedau, ac sy’n canolbwyntio i’r un graddau ar hybu ymwybyddiaeth o’r perygl a wynebwn ag y mae ar gymryd camau gweithredu penodol.
Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth Genedlaethol yn rhoi pob ystyriaeth i’r effeithiau ar ein hamgylchedd ac ar fioamrywiaeth yng Nghymru, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi’i chomisiynu i gynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o’r Strategaeth Genedlaethol.
Cyhoeddir y Strategaeth Genedlaethol yn haf 2011. Ar ôl ei chyhoeddi gall awdurdodau lleol ddechrau gweithio ar eu strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol, a fydd yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld yn glir y dull o weithredu sy’n cael ei fabwysiadu’n genedlaethol a’r un sy’n cael ei fabwysiadu yn eu hardaloedd.
Cynllunio Defnydd Tir
Mae lle pwysig hefyd i gynllunio defnydd tir wrth reoli’r perygl o lifogydd.
Ym mis Chwefror cwblhawyd ein hymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig mewn hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai. Rhoddwyd sylw yn yr ymgynghoriad i bryderon ynghylch gosod wynebau caled ar erddi a’r effaith bosibl o hynny ar gynyddu’r perygl o lifogydd oherwydd llif cyflymach dŵr ffo oddi ar wynebau.
Mae’r newidiadau yr wyf yn eu cynnig yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer darparu wynebau caled newydd, neu rai yn lle wynebau caled blaenorol, o fewn unrhyw ran o gwrtil tŷ, ar yr amod y defnyddir deunyddiau mandyllog, neu y gwneir darpariaeth i gyfeirio unrhyw ddŵr ffo at wyneb neu fan sy’n caniatáu i’r dŵr ddraenio’n naturiol.
Nid oes darpariaeth i ganiatáu gosod wynebau caled traddodiadol heb fandyllau, gan fy mod yn credu bod arnom angen ymrwymiad pendant i ddeiliaid tai ddefnyddio deunyddiau mandyllog wrth greu wynebau caled yn eu gerddi. Mae hyn yn mynd yn bellach na’r rheolaethau a gyflwynwyd yn Lloegr.
Rydym yn ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar hyn o bryd wrth drafod y newidiadau yn yr hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai. Wrth gwrs, bydd unrhyw ddiwygio ar ddeddfwriaeth yn fater i’r Llywodraeth Cynulliad newydd, ond mae’n bosibl y gellid cyflwyno Gorchymyn diwygiedig yn ystod yr hydref.
Rwyf yn falch o gyhoeddi bod y Mapiau Cyngor Datblygu sydd gyda TAN15 yn cael eu darparu ar lein hefyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o fis Ebrill eleni.
Bydd y mapiau hyn, a oedd ar gael ar gais yn unig o’r blaen, yn galluogi datblygwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd i weld pa ardaloedd sydd o fewn y gorlifdir a chynllunio’n unol â hynny.
Wrth ei gwneud yn haws cael mynediad at y mapiau hyn, rydym yn hyrwyddo’r tryloywder sy’n bwysig ar gyfer materion cynllunio o’r fath, gan gyflymu’r broses geisiadau a helpu pawb i ddeall y dull rhagofalus o weithredu y mae’n rhaid ei fabwysiadu yng nghyd-destun datblygu a pherygl llifogydd.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi pecyn ymgynghori yr wythnos hon ynghylch y system gyfarwyddiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol cyfeirio mathau penodol o ddatblygu at Weinidogion Cymru i ystyried a ydynt hwy’n dymuno penderfynu ar y ceisiadau, yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig nifer o newidiadau yn y system bresennol, yn cynnwys cyfarwyddyd newydd. Bydd hwn yn mynnu bod ceisiadau cynllunio am fathau penodol o ddatblygu yn y parth llifogydd C2 yn cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru.
Rwyf yn credu y bydd cyflwyno gofyniad o’r fath yn ategu’r dull rhagofalus o weithredu sydd wedi’i argymell yn TAN15 sef cyfeirio datblygiadau newydd tua safleoedd lle nad oes dim neu bron dim perygl o lifogydd.
Unwaith eto, bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn fater i’w ystyried gan y Llywodraeth Cynulliad newydd.
Ymarfer Watermark
Yn ogystal â chynllunio a rheoli mewn cysylltiad â risgiau llifogydd ac erydu arfordirol, mae’n bwysig ein bod ni a’n partneriaid yn barod i ymateb yn effeithiol i bob math o lifogydd, pa un a ydynt yn ddigwyddiadau llifogydd lleol neu’n rhai ar raddfa eang.
Mae’r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill sy’n ymateb yn dangos eu proffesiynoldeb a’u harbenigedd o hyd wrth ymateb i ddigwyddiadau llifogydd. Fodd bynnag, os disgwylir llifogydd mawr yng Nghymru, neu os byddant yn digwydd, mae hefyd yn bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn gallu rhoi cymorth at yr ymateb amlasiantaethol lle bynnag y bo modd; yn enwedig mewn cysylltiad â hwyluso cydgymorth a chyflawni rôl ganolog o ran rheoli canlyniadau ac ymadfer. Mae’n bwysig felly bod peirianwaith argyfwng Llywodraeth y Cynulliad ei hun yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn ymgysylltu ag asiantaethau partneriaid.
Yn wythnos 7 Mawrth cymerasom ran yn Ymarfer Watermark, ymarfer argyfwng cenedlaethol i roi prawf ar y gallu i ymateb i ddigwyddiad llifogydd mawr. Datblygwyd yr ymarfer mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ac Asiantaeth yr Amgylchedd a rhoddodd brawf ar ein hymateb i lifogydd ar afon yng nghanolbarth Cymru.
Roedd yr ymarfer yng Nghymru’n cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Dŵr Cymru a’r Lluoedd Arfog a rhoddodd gyfle i’r holl bartneriaid roi prawf ar eu cynlluniau a threfniadau ymateb.
Agorwyd Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) Llywodraeth Cynulliad Cymru ac roedd pob lefel o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd rhan, a chynhaliwyd cyfarfodydd o COBR fel y byddai’n digwydd mewn sefyllfa wirioneddol.
Aeth y digwyddiadau’n dda ar y diwrnod, a byddwn yn cwblhau adolygiad o’r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn dysgu oddi wrthynt. Mae’n bwysig i ni achub ar y cyfle i wella ein trefniadau ymhellach a sicrhau, pe byddem yn gorfod ymateb i ddigwyddiad llifogydd, y gallem wneud hynny’n gyflym ac yn effeithiol.
Bydd angen hefyd i ni ystyried beth y gallwn ei ddysgu o hyn er mwyn gwella’r ymateb estynedig i ddigwyddiad, wedi i’r gwasanaethau brys adael a phan fydd y cyfnod adfer yn dechrau.
Ymwybyddiaeth y Cyhoedd
Rwyf yn credu ei bod yn bwysig hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o berygl llifogydd ac erydu’r arfordir er mwyn sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn gallu paratoi ar gyfer digwyddiadau ac ymadfer ar eu hôl yn gyflymach ac rydym yn gwneud llawer o waith ar hyn.
Yn gynharach y mis hwn lansiais y cynllun peilot ar gyfer pwynt cyswllt sengl. Yn y cynllun peilot hwn bydd Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru, tri awdurdod lleol a bwrdd draenio mewnol yn cydweithio drwy ddarparu un rhif cyswllt i’r cyhoedd er mwyn delio â’r holl ymholiadau ynghylch llifogydd o bob ffynhonnell.
Mae’r bartneriaeth hon wedi’i sefydlu i helpu i leihau’r dryswch a geir yn aml mewn cysylltiad â llifogydd. Mae’r cynllun peilot o dan nawdd Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn rhan o’i gwasanaeth rhybuddion llifogydd a bydd mwy o awdurdodau lleol yn cael gwahoddiad i ymuno eleni.
Yn ogystal â noddi’r pwynt cyswllt sengl ar gyfer ymholiadau ynghylch llifogydd a pherygl llifogydd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynnal rhaglen hybu ymwybyddiaeth ledled Cymru dros y 12 mis diwethaf. Mae wedi teithio ledled Cymru â’i rhaglen arloesol, gan ymweld â threfi a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad. Yn ogystal â rhedeg pwynt gwybodaeth canolog ym mhob cymuned yr ymwelwyd â hi, mae staff Asiantaeth yr Amgylchedd wedi galw o ddrws i ddrws, gan gynghori pobl ynghylch y perygl y maent yn ei wynebu a chynnig cyngor ar y camau y gallent eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae hwn yn wasanaeth pwysig ac yn ffordd werthfawr i gyfleu negeseuon i bobl nad ydynt wedi cael profiad o lifogydd eu hunain o reidrwydd, neu sydd heb fod yn ymwybodol o’r peryglon y maent yn eu hwynebu. Mae hybu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â chymunedau ac unigolion yn rhan hanfodol o’r gwaith o reoli risgiau ledled Cymru ac yn rhywbeth y mae angen i ni fuddsoddi ynddo’n barhaus.
Cyllid ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Er 1999 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi treblu’r buddsoddiad mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, hyd at fuddsoddiad o £39 miliwn yn 2010/11.
Mae hyn wedi’i rannu rhwng cyllid ar ffurf Cymorth Grant i Asiantaeth yr Amgylchedd a chyllid grant sydd ar gael i brosiectau dan arweiniad awdurdodau lleol, ac fe’i hategwyd â chyllid o £5 miliwn o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a’r swm o £9 miliwn y disgwylir ei dynnu i lawr o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, yn amodol ar gymhwyster o dan feini prawf.
Mae angen i ni gydnabod hefyd y bydd y risgiau’n newid dros amser.
Ar hyn o bryd mae 220,000 o eiddo yng Nghymru, neu tua 11% o’r holl eiddo, mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr. Mae tebygolrwydd arwyddocaol o gael llifogydd mewn 65,000 o’r rhain.
Mae llifogydd o afonydd a’r môr eisoes yn arwain at dalu iawndal disgwyliedig o £200 miliwn ar gyfer eiddo yng Nghymru bob blwyddyn. Mae modelu rhagfynegol yn awgrymu, os daliwn i fuddsoddi mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ar y lefelau presennol, gan ddarparu ar gyfer chwyddiant, y byddai nifer yr eiddo lle mae tebygolrwydd arwyddocaol o gael llifogydd yn codi i 115,000 erbyn 2035, gyda chynnydd canlyniadol yn yr iawndal disgwyliedig bob blwyddyn.
Er mwyn cadw niferoedd yr eiddo sydd mewn perygl yn 2035 ar lefelau tebyg i’r rhai presennol, gallai fod yn ofynnol treblu’r lefelau buddsoddi.
Mae hyn yn fater y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gymryd o ddifrif. Rydym wedi gwneud darpariaeth i fuddsoddi mwy na £109 miliwn mewn gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn wedi’i ategu gan bron £50 miliwn o gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Er 2008 rydym wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am £30 miliwn o gyllid Cydgyfeirio a £6 miliwn o gyllid Cystadleurwydd. Mae hyn wedi’i ategu yn 2010/11 drwy gais llwyddiannus am £6.07 miliwn ychwanegol o gyllid Cydgyfeirio a dyrannu £7.77 miliwn o gyllid ôl-weithredol at brosiectau yr ydym wedi’u cwblhau eisoes.
Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn hybu ein Rhaglen Ewropeaidd Strategol bresennol, a fydd yn creu modd i adeiladu 28 o gynlluniau amddiffyn gan gynnwys cynllun Riverside ger St Julians yng Nghasnewydd, sy’n werth £6.6 miliwn, y cynllun gwerth £11.5 miliwn yn y Borth a’r cynllun gwerth £7.6 miliwn yn Nhywyn. Yn ogystal â hyn bydd y cyllid yn hyrwyddo amryw o weithgareddau i hybu ymwybyddiaeth a’r gallu i wrthsefyll llifogydd mewn cymunedau lleol.
Yn y cyfnod anodd hwn o gyfyngiadau ar wariant y sector cyhoeddus, mae parhau â’r lefel hon o fuddsoddi’n tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu ein cymunedau a rheoli’r risgiau y maent yn eu hwynebu.
Casgliad
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau a rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae ein cymunedau’n cael mynediad at well gwybodaeth ac mae mwy o bobl yn cofrestru i gael rhybuddion llifogydd bellach.
Cafwyd cynnydd mewn buddsoddi a bellach mae gennym y fframwaith deddfwriaethol y mae arnom ei angen i gyflawni’r newidiadau sy’n angenrheidiol i reoli’r risgiau ehangach a wynebwn.