Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Ffyniant i bawb − y strategaeth genedlaethol. Mae'n pennu nodau'r llywodraeth hon ac yn egluro wrth ein partneriaid y newidiadau yr ydym yn awyddus i'w gwneud yng Nghymru. Mae hefyd yn egluro sut yr ydym am i gyrff ym maes llywodraeth a'n partneriaid cyflawni fod yn rhan o ffordd newydd o fynd ati i gyflawni blaenoriaethau.
Mae ein strategaeth yn cydnabod bod sut yr ydym yn cyflawni yn gallu bod yr un mor bwysig â beth yr ydym yn ei gyflawni, a bod yn rhaid inni, os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, wneud pethau mewn ffordd wahanol a gwneud pethau gwahanol. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod cyfraith Cymru, drwy gyfrwng Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ein cefnogi ni, ac eraill, yn y gwaith hwnnw.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydnabod y cyfraniad y gall pawb ei wneud at y nodau cyffredin sydd gennym ar gyfer Cymru, ac mae hefyd yn rhoi sylfaen inni fedru creu math gwahanol o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwireddu'r potensial i fod yn sector cyhoeddus hyblyg mewn cenedl fach, ac er mwyn cyflawni'r newid hwnnw, mae angen inni fod yn glir am ein hamcanion, am y camau y byddwn eu cymryd, ac ynghylch sut y byddwn yn mynd ati i weithio mewn ffordd wahanol.
Mae'r strategaeth genedlaethol yn amlinellu'r deuddeg amcan sydd gan y Llywodraeth a hefyd y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd i'w gwireddu. Yr amcanion hyn yw amcanion llesiant y Llywodraeth, sy'n disodli'r amcanion cychwynnol a bennwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae'r amcanion hyn yn rhan annatod o'r strategaeth, maent yn nodi'r meysydd lle y gall Llywodraeth Cymru wneud y cyfraniad mwyaf at gyflawni'r nodau ac maent yn sail i bartneriaethau cryf ag eraill. Maent yn golygu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael lle canolog wrth inni fynd ati i wneud penderfyniadau. Ochr yn ochr â Ffyniant i bawb − y strategaeth genedlaethol, rwyf heddiw wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'r datganiad llesiant, sy'n esbonio sut y bydd yr amcanion llesiant yn y strategaeth genedlaethol yn cyfrannu at y saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'r fersiwn ddiweddaraf hon yn tystio i'r ffaith ein bod yn parhau'n ymrwymedig i ddatblygu ac i wella'n hymateb i'r Ddeddf.
Dolen:
Ffyniant i bawb − y strategaeth genedlaethol
http://llyw.cymru/rhaglenlywodraethu
Ffyniant i bawb − y strategaeth genedlaethol | amcanion llesiant Llywodraeth Cymru (2017).
http://llyw.cymru/rhaglenlywodraethu
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?lang=cy