Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yfory, byddaf yn lansio Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Bydd yn nodi agenda gyffrous ar gyfer newid er mwyn sicrhau bod yr economi wedi'i hadeiladu ar seiliau cadarn, bod diwydiannau’n barod ar gyfer y dyfodol, a bod rhanbarthau yn gynhyrchiol.  

Bydd Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu ar yr Economi Cymru yn hyrwyddo dau nod sef gwella iechyd a llesiant Cymru, gan leihau anghydraddoldeb ar yr un pryd. Fe'i datblygwyd i ddiwallu'r anghenion sy’n bodoli heddiw, ac i’n paratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol.

Byddaf yn darparu mwy o fanylion mewn datganiad llafar yfory.