Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol & Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 15 Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei phedair lefel rhybudd sy’n nodi’r hyn y gall aelodau’r cyhoedd ei ddisgwyl ar bob lefel rybudd wrth inni barhau i ymdopi â’r coronafeirws yng Nghymru. Mae’r cynllun yn manylu ar sut y cyflwynir mesurau cenedlaethol gan ddibynnu ar gynnydd y coronafeirws ledled Cymru, gan gynnwys sut a phryd y bydd symud rhwng y lefelau hyn.
Y pedair lefel a gyflwynwyd yw:
- Lefel 1/Risg Isel: Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill ar waith.
- Lefel 2/Risg Ganolig: Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gyfyngiadau lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli mannau problemus o ran yr haint neu achosion lluosog neu frigiadau penodol.
- Lefel 3/Risg Uchel: Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo. Mae’n ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
- Lefel 4/Risg Uchel Iawn: Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio'r rhain naill ai fel cyfnod atal byr drwy weithredu ymlaen llaw, neu fel mesur cyfnod clo brys os nad yw rhybudd ymlaen llaw yn bosibl.
Rydym wedi cytuno ar gynllun rheoli manwl ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a fydd yn cynorthwyo gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r cyhoedd i ddeall y mesurau i’w disgwyl ar bob lefel fel y gallant barhau i ddiogelu’r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Ar gyfer pob un o’r lefelau, dylai pob aelod o staff gofal cymdeithasol, a staff gofal iechyd sy’n cynorthwyo gwasanaethau gofal cymdeithasol, ddefnyddio mesurau atal heintiau effeithiol gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, a defnydd cywir a phriodol o gyfarpar diogelu personol. Mae’r cynllun hefyd yn nodi’r math o brofi a ddylai fod ar gael i staff, sut i leihau’r risg wrth ganiatáu i ymwelwyr a staff gofal allanol ddod i mewn i’r cartref, a sut y dylid rheoli ymwelwyr a staff gofal allanol.
Datblygwyd y cynllun mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan sicrhau nid yn unig bod y risgiau i unigolion yn cael eu lleihau ond hefyd bod hawliau unigolion yn cael eu hystyried wrth gymhwyso mesurau.
Y dull arferol ddylai fod asesu risgiau lleol ac unigol, gan osgoi dulliau cyffredinol a chydnabod y gwahaniaeth o berygl oddi wrth COVID-19 i breswylwyr oedrannus o’i gymharu â’r risg i blant. Gan y darparwr unigol y mae’r penderfyniad yn y pen draw o ran caniatáu ymweliadau i’r cartref gofal ac o dan ba amgylchiadau, ac rydym yn deall y bydd rhai darparwyr yn ei chael yn fwy heriol i hwyluso ymweliadau nag eraill. Fodd bynnag, bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi darparwyr i alluogi ymweliadau, ac rydym yn disgwyl ac yn annog darparwyr i hwyluso ymweliadau pan fo modd. Mae canllawiau mwy manwl am gynnal asesiadau risg yn cael eu datblygu.
Mae’r broses o weithredu’r argymhellion yn y cynllun rheoli sy’n ymwneud â chynnal profion arferol ar gyfer staff gofal cymdeithasol, nad ydynt ar hyn o bryd yn rhan o raglen brofi, wrthi’n cael ei datblygu a chyhoeddir manylion pellach yn y man.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i aelodau. A fydd aelodau am inni wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn ei wneud â phleser.