Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fframwaith gwella diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o ran y mesurau arbennig. Rwy’n awyddus i bwysleisio wrth y bwrdd iechyd, Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid allweddol yr hyn y bydd rhaid i’r bwrdd iechyd ei ddangos er mwyn inni ystyried ei symud i lawr o fesurau arbennig.

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi profi y gall gyflawni nifer o’r disgwyliadau o ran gwella. Nid yw’r gwasanaethau mamolaeth a’r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau bellach yn rhan o'r pryderon o dan y mesurau arbennig, ac mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud o ran gofal sylfaenol a rheoli heintiau. Mae’r bwrdd hefyd yn darparu gwasanaethau da mewn ystod o feysydd fel iechyd y cyhoedd a gwaith atal, gyda chyfraddau brechiad y ffliw mewn pobl dros 65 oed wedi cynyddu ers 2015/16 i 71% yn 2018/19, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru o 69%. Mae therapïau yn sicrhau yn gyson nad oes amseroedd aros hirach na 14 wythnos.

Mae’r disgwyliadau y bydd angen i'r bwrdd iechyd eu cyflawni yn syth er mwyn symud i lawr o fesurau arbennig yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • cynllunio;
  • perfformiad mewn gofal heb ei gynllunio a gofal wedi'i gynllunio;
  • rheoli cyllid.

Mae hefyd yn hanfodol bod y bwrdd iechyd yn cynnal y gwelliannau y mae'n eu cyflawni mewn gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a mesurau ansawdd – gwelliannau sydd wedi’u cydnabod mewn trafodaethau teirochrog blaenorol.

Yn y cyfarfod teirochrog nesaf, hoffwn glywed pa gynnydd penodol sydd wedi’i wneud wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl cynaliadwy o safon ac wrth ddatblygu modelau gofal newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad ychwanegol i gefnogi cynnydd pellach mewn nifer o feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys CAMHS, gweithredu'r mesur iechyd meddwl a gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd wedi sicrhau £3 miliwn o'r Gronfa Trawsnewid i ddatblygu cymorth iechyd meddwl ymyrraeth gynnar integredig ar gyfer plant a phobl ifanc, a dros £2 filiwn i gefnogi dull amlasiantaethol o ran gofal mewn argyfwng.  

Nid yw'r fframwaith hwn yn rhestr o gamau gweithredu i'w croesi i ffwrdd fesul un, ond yn set o ddisgwyliadau uniongyrchol a thymor canolig i'r bwrdd iechyd allu dangos eu bod wedi gwneud cynnydd arnynt er mwyn gostwng y lefel uwchgyfeirio. Rwyf eisiau gweld y sefydliad hwn yn datblygu i fod yn un effeithiol, sy’n cael ei lywodraethu'n dda. Mae hyn yn golygu y bydd angen gweledigaeth i'r dyfodol sydd wedi'i datblygu mewn partneriaeth â staff a phartneriaid ac sy'n cynnwys cymunedau.

Mae datblygu'r strategaeth gwasanaethau clinigol yn hanfodol i sicrhau bod gan y bwrdd iechyd gyfeiriad clir i'r dyfodol. Mae’n cael ei gefnogi gan uchelgais y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Cyfarwyddwr Meddygol newydd. Dechreuodd y Cyfarwyddwr Meddygol yn ei swydd ym mis Awst ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod cyfleoedd digidol yn cael eu harchwilio. Mae’r arweinyddiaeth glinigol amlwg hon yn hanfodol i sicrhau y gall staff a phartneriaid hysbysu a siapio'r weledigaeth a'r modelau gofal newydd. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y maes hwn dros y 5 mis nesaf.

Yr her allweddol ar gyfer yr arweinyddiaeth yw sicrhau bod ganddynt y capasiti a'r gallu perthnasol i gyflawni cynnydd amlwg mewn gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei gynllunio. Rydym wedi gweld cynnydd yn ddiweddar o ran y perfformiad canser 62 diwrnod ac mae'r perfformiad 31 diwrnod yn gyson â'r targed o 98%, neu'n well. Mae cylchoedd gwella 90 diwrnod y bwrdd iechyd mewn gofal heb ei gynllunio yn sicrhau gwelliant wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, ac mae’r perfformiad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei gefnogi gan waith partneriaeth cryfach gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Er y bu cynnydd yn y galw o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, bu gwelliant bychan yn y perfformiad 4 awr, ond nid yw wedi cyrraedd y disgwyliadau ac mae'n parhau i fod yn wan o ran sefyllfa o gymharu. Mae angen i gamau gweithredu cyson pellach a'r cynlluniau newydd a gyflwynwyd ddechrau dangos cynnydd pellach wrth leihau amseroedd aros 4 a 12 awr.

Ddydd Llun cefais gyfarfod gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr i fynegi fy mhryder parhaus ynglŷn â nifer yr arosiadau 36 wythnos mewn gofal wedi'i gynllunio. Mae cymorth diweddar Llywodraeth Cymru yn cynnwys £1.75 miliwn ar gyfer gwasanaethau cyhyrysgerbydol ac orthopaedig a bron i £12 miliwn i ddarparu mwy o gapasiti ar gyfer triniaethau a phrofion diagnostig i gleifion sydd ar y rhestr aros. Mae'r bwrdd iechyd yn ceisio arloesi a gwella, gan gynnwys cynnal triniaethau undydd ar gyfer cymalau pen-glin a chlun newydd, llwybr cataractau uniongyrchol ac adolygiadau rhithwir. Ond mae angen dangos gwell rheolaeth a gwell cynlluniau i ddarparu gwell perfformiad. Byddaf yn adolygu sut y gallwn roi cymorth pellach a buddsoddi mewn gofal wedi'i gynllunio gan fod y diffyg cynnydd yn annerbyniol. 

Mae penodiad cyfarwyddwr adfer dros dro wedi cael sylw mawr yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod y cyflog yn un sylweddol. Ond mae angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'i sefyllfa ariannol ar frys, ac mae canfyddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ategu hynny. Mae cynnydd wedi'i wneud ers i'r cyfarwyddwr adfer ddechrau yn ei swydd, o ran datblygu cyfleoedd i gyflawni'r gofynion i arbed arian. Mae hyn yn darparu lefel uwch o sicrwydd y bydd y Bwrdd yn gwneud cynnydd ac yn rhoi gwybod am well sefyllfa ariannol o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Yn y cyfarfod yr wythnos hon gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, pwysleisiais fy mod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gynnwys staff a phartneriaid er mwyn cyflawni'r disgwyliadau a thrawsnewid i'r dyfodol. Bydd angen i'r bwrdd wneud penderfyniadau anodd ond mae'n rhaid gwneud hyn ar y cyd a chynnwys rhanddeiliaid drwy gydol y broses. 

Bydd y bwrdd iechyd ym mynd ati yn awr i gynnal adolygiad o'i sefyllfa bresennol, o ran y disgwyliadau uniongyrchol a nodwyd yn y fframwaith. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 13 Rhagfyr i'w ystyried yn y cyfarfod teirochrog rheolaidd. Rwyf hefyd wedi gofyn am gael cynnal cyfarfod teirochrog arbennig yn ystod gwanwyn 2020 i drafod cynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn erbyn y disgwyliadau a nodwyd yn y fframwaith.