Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw’n Annibynnol yn cael ei gyhoeddi ar 19 Medi. Atodaf gopi o’r fframwaith, a fydd hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r Fframwaith yn nodi’r camau a gymerir i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol a chael yr un dewisiadau â dinasyddion eraill. Mae’n brosiect trawsbynciol yr wyf wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.  

Dyma amcanion y fframwaith:

  • nodi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, yng nghyd-destun heriol y dirwasgiad a’r newidiadau i’r system les;
  • herio ystrydebau ac agweddau negyddol;
  • nodi, am y tro cyntaf, ffordd strategol o ymdrin ag anabledd yng Nghymru;
  • nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i hyrwyddo cymdeithas gynhwysol lle gall pobl fyw fel y mynnant; a
  • pwysleisio rolau allweddol ein partneriaid cyflenwi lleol a rhanddeiliaid.

Mae’r Fframwaith yn nodi sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae hefyd yn cyfrannu at y gwaith o roi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith ac yn cefnogi’n cynlluniau ar gyfer trechu tlodi. Mae’r Fframwaith yn dangos bod taclo’r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl yn fuddiol o ran eu hawliau ac, hefyd, o ran mynediad a chynhwysiant. Bydd y fframwaith hwn yn arwain at wasanaethau cynaliadwy sy’n ymateb i anghenion pawb.

Bydd y dirwasgiad, toriadau a newidiadau i’r system les yn effeithio ar lawer o bobl anabl yng Nghymru. Yn wir, gyda chostau byw’n cynyddu, bydd llawer yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Nid Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r system fudd-daliadau na’r agweddau allweddol sy’n dylanwadu ar yr economi, felly dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod bywyd yn well i’r unigolion hynny y bydd y toriadau’n effeithio arnynt. Dim ond materion sydd o fewn pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru y gallwn fynd i’r afael â nhw. Mae’r Fframwaith, felly, yn canolbwyntio ar yr hyn y gall Lywodraeth Cymru ei wneud i symud yr agenda hwn yn ei flaen. Mae’n helpu i gyflawni blaenoriaethau penodol pobl anabl ac mae’n nodi sut y byddwn yn mynd ati i drechu’r rhwystrau i gydraddoldeb.

Roedd yr adborth a gawsom ar yr ymgynghoriad ar y fframwaith yn gadarnhaol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Fframwaith. Hefyd, croesawyd y ffordd gydweithredol o ddatblygu’r ddogfen. Hefyd, roedd hi’n glir o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei bod yn hollbwysig cynnwys pobl anabl yn y gwaith o wneud penderfyniadau wrth ddarparu gwasanaethau cynhwysol, er mwyn cael pethau’n iawn y tro cyntaf. Yn hyn o beth, drwy annog pobl i ddatblygu mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr, gan gynnwys Canolfannau Byw’n Annibynnol, byddwn yn creu model o gydweithio i gyflawni ein hamcanion, sef rhoi llais cryfach a dylanwad gwirioneddol i’r bobl.

Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn bwrw ymlaen â’r agenda hon. Cynorthwyo pobl i fyw eu bywydau fel y mynnant yw’r peth iawn i wneud. Felly, mae’r Fframwaith yn cynnwys y neges fod yn rhaid i bawb, boed yn Lywodraeth Cymru neu’n ddarparwyr gwasanaethau lleol, wneud eu gorau i sicrhau ein bod yn datblygu polisïau a rhaglenni sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn mabwysiadu ffordd o weithio, o ran darparu gwasanaethau, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Y neges allweddol yw nad anableddau sy’n atal pobl rhag cael ffordd o fyw resymol, ond amgylchiadau ac amgylcheddau caeth, rhwystrau ac agweddau sy’n cyfyngu ar bobl.

Rwy’n siŵr y bydd Aelodau’r Cynulliad ac eraill yn croesawu’r ddogfen hon. Rwy’n siŵr, hefyd, y byddan nhw’n rhannu fy marn nad y fframwaith hwn yn unig fydd yn cyflawni ein gweledigaeth am Gymru gynhwysol a fydd yn galluogi pobl anabl i reoli pob agwedd ar eu bywydau a gwneud dewisiadau cadarnhaol. I gyflawni hynny, bydd gofyn newid diwylliant; ni ddylai pobl anabl orfod derbyn eu gwasanaethau’n oddefol – yn hytrach, dylen ni ymddiried yn ein gilydd i gydweithio i newid pethau. Y nod yw hybu hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac arfer yr un hawliau a dinasyddion eraill.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau’n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn, byddaf yn hapus i wneud hynny.